Gyda’i gymysgedd unigryw o ddinas, arfordir a’r wlad, mae Bae Abertawe yn cynnig ansawdd bywyd dihafal, ochr yn ochr ag economi sy’n tyfu a lefelau o adfywiad na welwyd mo’u tebyg. P’un ai eich bod chi’n meddwl buddsoddi, adleoli, astudio neu ymweld ag ardal Bae Abertawe, rydych chi wedi dod i’r lle iawn i gael gwybod mwy!
Os ydych chi’n edrych am ansawdd bywyd gwirioneddol, yna gall mai byw a gweithio ym Mae Abertawe yw’r ateb. Gyda’i gymysgedd unigryw o ddinas fywiog, arfordir syfrdanol a chefn gwlad amrywiol iawn, mae ardal Bae Abertawe yn llythrennol yn cynnig rhywbeth i bawb.
Mae dros hanner miliwn o bobl o bob lliw a llun eisoes yn byw ac yn gweithio yn y cornel amrywiol, lliwgar hwn o Gymru ar arfordir De Orllewin Cymru. Mae Bae Abertawe yn cynnwys y brifddinas ranbarthol sef dinas Abertawe ei hun; Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig cyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr; Sir Gâr - ‘Gardd Cymru’ a Chymoedd Nedd ac Afan, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Bro’r Rhaeadr’ ac yn enwog am eu llwybrau beicio mynydd ysblennydd o’r radd flaenaf.
Archwiliwch y safle a chymerwch olwg ar rai o uchafbwyntiau Bae Abertawe. Cewch lawer o wybodaeth am y ffordd y mae’r ardal yn newid - y datblygiadau newydd cyffrous sy’n digwydd a’r prosiectau deinamig sydd wedi’u cynllunio, yn ogystal â chyfoeth o wybodaeth, cysylltiadau a dolenni i safleoedd allweddol eraill. Wrth gwrs, os nad yw’r hyn rydych chi’n chwilio amdano yma, cysylltwch â ni a byddwn yn barod iawn i’ch helpu.