Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Astudio yn > Addysg Bellach

Addysg Bellach

Mae Abertawe yn cynnig ystod eang o sefydliadau addysg bellach, sef Coleg Gwyr Abertawe, Choleg Castell-nedd Port Talbot, a Coleg Sir Gar.

Coleg Abertawe yw un o'r colegau mwyaf yn rhanbarth de orllewin Cymru. Mae'n gosod cysyniadau ehangu cyfranogiad, addysg gydol oes, a chyfleoedd cyfartal yn flaenllaw yn ei weithrediadau, ac mae'n parhau i ymdrechu am ragoriaeth ac ansawdd yn natblygiad a chyflwyniad ei bortffolio cyflawn.

Mae Coleg Gorseinon yn Goleg cyfeillgar a chefnogol i astudio ynddo. Gyda staff sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel iawn i'w myfyrwyr. Cydnabuwyd yr ymdrechion hyn gan Arolygwyr ei Mawrhydi (ESTYN) yn eu harolygiad diweddaraf, pan raddiwyd safon yr addysg yn rhagorol yn yr holl feysydd rhaglen a aseswyd ganddynt.

Coleg Castell-nedd Port Talbot yw'r unig ddarparwr Addysg Bellach sy'n cynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau i weddu i'r mwyafrif o anghenion naill ai'n Rhan Amser neu'n Amser Llawn.

A oeddech chi'n gwybod?

  • Cynigiwyd lleoedd i fwy na 30 o fyfyrwyr o Goleg Gorseinon mewn colegau Rhydychen a Chaergrawnt yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • Yn ddiweddar, gwobrwywyd myfyriwr o Goleg Castell-nedd Port Talbot am ei wybodaeth o Gemeg yn yr Olympiad Cemeg diweddar y Chweched Dosbarth Isaf yn 2005, a daeth yn y 12 uchaf (yn 10fed mewn gwirionedd) yn y DU yn gyfan gwbl. Trefnwyd gan Gymdeithas Frenhinol Cemeg (CFC).

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet