Mae Abertawe yn cynnig ystod eang o sefydliadau addysg uwch, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant , Caerfyrddin.
Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ym 1920 a saif mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' cyntaf Prydain. Mae'r Brifysgol yn cynnig mwy na 529 o gyrsiau i raddedigion a 130 o gyrsiau i ôl-raddedigion mewn ystod eang o bynciau. Mae'r Brifysgol yn un o'r 3 phrif sefydliad academaidd yn y DU sy'n cynnig y llety gwerth gorau am arian a reolir gan brifysgol.
Enillodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe ei statws ym 1992, fel Corfforaeth Addysg Uwch Annibynnol, ond aiff ei gwreiddiau yn ôl mwy na 150 o flynyddoedd. Mae i Prifysgol Fetropolitan Abertawe dair cyfadran: Cyfadran Dylunio a Pheirianneg Cymhwysol, Cyfadran Celf a Dylunio, a Chyfadran y Dyniaethau.
Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant , Caerfyrddin, yw'r ail sefydliad addysg uwch hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1848 i hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion Eglwysig. Mae'n sefydliad lle rhoddir statws a pharch cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae ganddo hunaniaeth genedlaethol falch, ond ar yr un pryd ceir dimensiwn rhyngwladol cryf o ran ei ethos a'i waith.
Er bod Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant , yn hanesyddol, yn sefydliad hyfforddi athrawon, mae wedi estyn ystod ei gyrsiau yn ddramatig fel y cynigir erbyn hyn, yn ychwanegol at gyrsiau ar gyfer hyfforddi athrawon, raddau BA Sengl, ar y Cyd ac Astudiaethau Cyfun, ac ystod o raddau BSc a graddau uwch, y mae llawer ohonynt o natur arloesol.
A oeddech chi’n gwybod?
- Bydd gan aelodau'r cyhoedd gyfle i weld eitemau o gasgliad enwog Richard Burton Prifysgol Abertawe . Rhoddwyd y casgliad gan weddw'r actor, Sally Burton, ac mae'n cynnwys dyddiaduron, llyfrau, gohebiaeth a phapurau preifat eraill a gasglwyd yn ystod bywyd Burton.
- Dyfarnwyd y radd uchaf posibl i gyfadran Dylunio a Pheirianneg Cymhwysol Athrofa Abertawe mewn adroddiad diweddar gan yr Adran Masnach a Diwydiant.


