Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Byw yn > Addysg

Addysg

Mae rhanbarth Bae Abertawe yn cynnig ystod eang o sefydliadau addysgol cynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch.

Yn ôl polisi ysgol unigol, mae addysg ar gael yn Saesneg, yn Gymraeg ac yn ddwyieithog, ac mae ysgolion enwadol yn y rhanbarth hefyd.

Ar 63.2%, mae lefel y plant yn Abertawe sy’n cyflawni Saesneg TGAU yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae dwy o ysgolion uwchradd Abertawe (Yr Olchfa a Bishopston) wedi ymddangos yn y Wasg Genedlaethol am eu cyraeddiadau uchel yn y tablau perfformio. Yn y cyfamser, roedd 70% o ymgeiswyr TGAU Castell-nedd Port Talbot wedi ennill graddau uwch A*-C, o’u cymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 65%. (CBAC 2008)

Mae gan Abertawe 88 o Ysgolion y Babanod, Plant Iau a Chynradd, a 15 Ysgol Uwchradd.
Am fwy o wybodaeth am addysg yn Ninas a Sir Abertawe, ewch i http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=1423

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot 66 o Ysgolion y Babanod, Plant Iau a Chynradd, a 12 Ysgol Uwchradd.
Am fwy o wybodaeth am addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=4

Mae gan Sir Gâr 136 o Ysgolion y Babanod, Plant Iau a Chynradd, a 18 Ysgol Uwchradd.
Am fwy o wybodaeth am addysg yn Sir Gâr, ewch i http://www.carmarthenshire.gov.uk/eng/index.asp?locID=4571&docID=-1

Ôl-16, mae pedwar Coleg Trydydddol poblogaidd iawn, sef Coleg Abertawe, Coleg Gorseinon, Coleg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd, yn cynnig ystod eang o gyrsiau.
http://www.swancoll.ac.uk/
http://www.gorseinon.ac.uk/en/index.asp
http://www.nptc.ac.uk/
http://www.colegsirgar.ac.uk/sites/web/home.php

Mae myfyrwyr o wledydd ar draws y byd yn dewis astudio yn sefydliadau addysg uwch ardderchog Bae Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, yn cynnig ystod eang o gyrsiau. Am fwy o wybodaeth am Addysg Uwch, ewch i’r adran ‘Astudio’.

ADDYSG ANNIBYNNOL

Er nad yw addysg breifat yn gyffredin trwy Dde Orllewin Cymru, mae nifer o ysgolion annibynnol ar lefel Cynradd ac Uwchradd ar draws y rhanbarth: Am fwy o wybodaeth, ewch i:
http://www.emetis.com/

 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet