Sefydlwyd Swansea Bay Futures Cyf â'r nod o 'Hyrwyddo Abertawe fel lle i fyw, dysgu, buddsoddi ac ymweld'
Er bod gan Abertawe gyfoeth o atyniadau, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol wych - traethau a pharcdiroedd, ardal forol, bywyd cymdeithasol bywiog, a chyfleoedd gwych o ran diwylliant a chwaraeon, nid yw llawer o bobl y tu allan i Gymru yn ymwybodol o'r hyn y mae gan yr ardal i gynnig.
Y farn oedd bod y diffyg ymwybyddiaeth hwn yn cyfrannu at y ffaith fod Abertawe yn tangyflawni ar ei photensial. Roedd angen i'r Ddinas gymryd camau cadarnhaol i ymdrin â materion o ran gwella ymwybyddiaeth o'r Ddinas a'i delwedd.
Ni allai unrhyw un o'r sefydliadau a fodolai eisoes yn yr ardal gyflawni hyn, felly sefydlwyd Swansea Bay Futures i gyflawni'r rôl hon.
Cwmni ddim er elw, cyfyngedig trwy warrant, yw Swansea Bay Futures, ac fe'i rheolir gan fwrdd cyfarwyddwyr, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Morgan Cole, Dinas & Sir Abertawe, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, IBM, Prifysgol Cymru Abertawe, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Swansea Bay Futures.
A oeddech chi'n gwybod?
Yn ddiweddar, pan ofynnwyd i sampl o bobl nad oedd wedi ymweld â'r Ddinas i'w leoli ar fap o Gymru a Lloegr.
- dim ond chwarter a allai ei lleoli'n gywir
- roedd 30% yn agos
- ond roedd mwy na 4 o bob 10 ymhell ohoni.
- yr hyn a achosai pryder oedd bod mwy nag 1 o bob 10 wedi ei lleoli mewn ardaloedd y tu allan i Gymru
* Ymchwil a wnaed ym mis Tachwedd 2004


