Yn y Car:
Cyn eich ymweliad efallai byddai’n syniad i chi wirio’r newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith ffordd yn ardal Bae Abertawe a’r cylch drwy fynd at latest news on roadworks.
Fel rheol, mae arwyddion da ar gyfer atyniadau. Mae’r arwyddion brown confensiynol yn eich cyfeirio at y maes parcio ceir agosaf yn hytrach nag i’r atyniad ei hun ac mae’n bosibl y bydd angen i chi gerdded ychydig cyn i chi gyrraedd pen eich taith.
Mae meysydd parcio ceir canolfan dinas Abertawe’n codi tâl am barcio, er ar hyn o bryd does dim tâl ar ddydd Sul. Mae Busnes Gwella Abertawe Cyf yn cydweithio gyda Pharciau Cenedlaethol Ceir a Chyngor Dinas Abertawe ar hyn o bryd, i redeg cynllun parcio ar adegau llai prysur sy’n cynnig parcio rhatach i siopwyr ar adegau penodol ym maes parcio Dewi Sant a safle NCP Ffordd y Brenin.
Parcio a Theithio Dinas Abertawe: Mae gwasanaeth parcio a theithio yn gweithredu o Ffordd Fabian yn y dwyrain (cyffordd 42 yr M4), Landore i’r gogledd o’r ddinas (cyffordd 45 yr M4) gydol y flwyddyn. Mae bysys gwennol Parcio a Theithio wedi eu haddasu i helpu teithwyr ag anawsterau symudedd. Ffôn: 01792 636609 / Parcio a Theithio Landore: 01792 641238 / Parcio a Theithio Ffordd Fabian: 01792 474592 / Parcio a Theithio Heol Caerfyrddin: 01792 636609
Ar y Bws:
Mae cwmni bysys First yn rhedeg gwasanaeth cynhwysfawr ar draws ardal Bae Abertawe. Am fanylion llawn ewch i wefan First. Holwch am docynnau gwerth am arian FirstDay a FirstWeek sy’n cynnig teithio di-ben-draw am bris rhagorol. Mae tocynnau i’w cael ar y bysys hefyd. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bysys arbennig ychwanegol yn yr haf cysylltwch â Traveline ar 0870 608 2 608
Ar y Trên:
Arriva Trains sydd yn rhedeg y gwasanaeth ar hyd taith sydd o bosibl yn un o’r rhai mwyaf hynod o hardd yn y wlad: mae’r daith sy’n cofleidio’r arfordir o Abertawe i Gaerfyrddin yn fater o “raid” i’r rheiny sy’n caru bywyd gwyllt a golygfeydd ysblennydd fel ei gilydd. Mae’r trên yn rhedeg ar hyd arfordir Bro Gŵyr a Sir Gaerfyrddin gan roi pleser i deithwyr wrth iddynt weld, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr, olygfeydd o aberoedd (a llawer o adar hirgoes) a baeau digyffwrdd.
Mae Arriva yn cynnal gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar draws Cymru gyfan, ac mae eu gwefan yn cynnig gwybodaeth am amserlen a chostau teithio, newyddion a’r diweddaraf ynghylch teithio, ochr yn ochr â thaith lyfrau i dwristiaid sy’n cynnig cipolwg o’r hyn sydd gan amrywiol fannau o Gymru i gynnig.
First Great Western sy’n cynnal gwasanaethau rhwng Llundain a De a Gorllewin Cymru. Mae eu gwefan yn cynnig amserlenni, gwybodaeth am gostau teithio, gwybodaeth am waith peirianneg, eiddo coll a llawer mwy.
Ymholiad Rheilffordd Cenedlaethol Mae gwasanaeth ymholiadau’r rheilffordd genedlaethol yn cynnig gwybodaeth am yr holl gwmnïau trên ac yn galluogi defnyddwyr i gynllunio eu taith ac i archebu tocynnau.
Ar gefn Beic:
Mae seiclo’n ffordd ardderchog o archwilio ardal Bae Abertawe. Mae’r llwybr o Ardal Arforol Abertawe i’r Mwmblws yn eich tywys ar hyd bwa Bae Abertawe. Mae’r ardal hon yn ffurfio rhan o’r 'Llwybr Celtaidd’, prosiect a ariannwyd gan y Mileniwm, Llwybr Beicio Cenedlaethol sy’n ymestyn ar draws de Cymru.
Gwasanaeth Shopmobility:
Mae canolbarth dinas Abertawe yn cynnig y gwasanaeth hwn i’r rheiny sydd â phroblemau symudedd ac mae ar gael yn Sgwâr Dewi Sant, Abertawe. Ffoniwch: 01792 461785. Mae Cludiant Cymdeithasol ar gael ar gyfer pobl sydd heb fodd preifat o gludiant ac sydd ddim yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus arferol am eu bod yn hen neu’n anabl neu oherwydd nad oes gwasanaeth addas ar gael. Am fwy o fanylion cysylltwch â: Llinell Gymorth Symudedd Abertawe: Ffôn: 01792 474477


