Mae rhanbarth Bae Abertawe yn cynnig amrywiaeth o leoedd i ymweld â nhw, beth bynnag yw’ch diddordeb a p’un a yw hi’n heulog neu’n bwrw glaw!
Trwy ranbarth Bae Abertawe i gyd, mae yna fyrdd o ddigwyddiadau yn digwydd, gan gynnwys gwyliau cerddoriaeth, digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol sy’n cael eu darlledu ar y teledu, gweithgareddau i blant, gwyliau bwyd a charnifalau… sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn! Edrychwch ar ein tudalennau ‘Digwyddiadau’ am fwy o wybodaeth.
Er na allwch gael gwell na’r traeth neu gefn gwlad agored ar ddiwrnodau heulog, mae llawer o amgueddfeydd, orielau ac atyniadau eraill dan do i chi gael eu mwynhau. Ewch i amgueddfa fwyaf newydd Cymru – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – atyniad sydd wedi ennill gwobrau, sydd â llawer i ddiddori’r ifanc a’r hen, fel ei gilydd. Neu, ewch i mewn i amgueddfa hynaf Cymru, Amgueddfa Abertawe, gyda’i Fymi o’r Aifft, a rhaglen arddangosfa sy’n newid yn rheolaidd. Mae gan Ganolfan yr Aifft, sydd ym Mhrifysgol Abertawe, dros 4,500 o arteffactau o’r Aifft! Ac wrth gwrs, mae mynediad i bob amgueddfa yn rhad ac am ddim!
A oes gennych chi ddiddordeb mewn celfyddyd? Yna, pam na wnewch chi ymweld ag Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, neu ymweld ag unrhyw un o’r orielau niferus sydd o gwmpas y rhanbarth. Mae gan y BBC restr gynhwysfawr o orielau.
Ganwyd a magwyd Dylan Thomas yn Abertawe, a threuliodd llawer o’i fywyd diweddarach yn Nhalacharn, ymhellach ar hyd yr arfordir. Ewch i’w Gartref yno, a mwynhau awyrgylch y lle, ble ysgrifennodd ei waith mwyaf enwog - Under Milk Wood (Dan y Wenallt), gyda’i bentref mytholegol Llareggub… ceisiwch ei sillafu tuag yn ôl, a chewch weld ychydig o’r dyn y tu ôl i’r gwaith! Yn y cyfamser, mae canolfan Dylan Thomas yn Abertawe – gyda’i siop lyfrau/siop goffi hamddenol – yn lle gwych i ddarganfod mwy am ei fywyd a’i waith.
Os mai bwyd a diod sy’n apelio, rhowch gynnig ar daith o amgylch Distyllfa Penderyn a gweld y broses gwneud chwisgi yn ogystal â dysgu am bwysigrwydd pren a dŵr yn llwyddiant y chwisgi!
Neu, pam na wnewch chi drefnu ymweliad â Bragdy Hurns, gwneuthurwyr cwrw Tomos Watkin, fel Cwrw Haf, sydd bellach yn cael eu gwerthu yn UDA a nifer o wledydd Ewrop… ac maent yn cael eu gwneud yn lleol, yma ym Mae Abertawe.
Os ydych chi eisiau cael eich sbwilio, pam na wnewch chi ymweld ag un o’r ffatrïoedd siocled lleol, a gweld sut y mae siocled yn cael ei wneud, a’i flasu hefyd! Ewch i’r wefan www.thechocfactory.com, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, am fwy o wybodaeth!
Yr LC – sy’n cynnwys, yn ogystal â’i barc dŵr cyffrous â reid teiar unigryw ‘MasterBlaster’ a pheiriant tonnau syrffio dan do, man chwarae i blant, campfa, wal ddringo, neuadd chwaraeon draddodiadol, a sba… mae’n ddewis delfrydol i bob aelod o’r teulu! Yn sicr, gwnaeth argraff ar EM Y Frenhines, pan agorodd y ganolfan ym mis Mawrth 2008.
Mae Plantasia yn pontio’r bwlch rhwng atyniadau dan do ac awyr agored, gyda’i erddi dan do ar themâu hinsawdd gwahanol, a mwncïod tamarind, ieir bach yr haf, a nifer o ymlusgiaid a phryfed hyfryd.
Er mwyn gweld gerddi ardderchog yn yr awyr agored, ewch i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, neu ewch am dro o gwmpas Gerddi Clyne, neu’r Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton, Abertawe. Mae Parc Margam, ar y llaw arall, yn cynnig diwrnod allan gwych, gydag adloniant i’r teulu ar dirweddau ysblennydd a hyddgant fwyaf Cymru o geirw.
Mae Parc Gwledig Penbre, rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, yn ddiwrnod allan gwych arall i’r teulu. Mwynhewch y tobogan neu rhowch gynnig ar sgïo ar ein llethr sych, llogwch feic i fynd o amgylch y parc, neu ewch ar hyd llwybr Arfordirol y Mileniwm… neu treuliwch amser ar draeth tywodlyd, hyfryd Cefn Sidan.
I’r rheiny sy’n hoffi bod yn fywiog, mae amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu cynnig.
Mae syrffio’n boblogaidd yn y rhanbarth, ac mae amryw o draethau lle gallwch logi bwrdd syrffio neu fwgi, a pham na wnewch chi gael gwersi gan unrhyw un o’r ysgolion syrffio niferus… rhowch gynnig ar Surf GSD www.surfgsd.com, sydd hefyd yn dysgu syrffio dan do, ym mharc dŵr a chanolfan hamdden newydd Abertawe - Yr LC.
Os ydych chi’n hoff o feicio mynydd, yna mae Bae Abertawe yn cynnig llwybrau amrywiol - gan gynnwys rhai blaenllaw yn ôl arolygon barn cylchgrawn beicio mynydd cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys The Wall ym Mharc Coedwig Afan, a Skyline yng Nglyncorrwg, y ddau wedi cael eu cynnwys yn y 10 disgyniad gorau yn y DU.
Ymhellach i ffwrdd, ond yn hawdd i’w gyrraedd o Fae Abertawe, fe ddowch o hyd i hynt a helynt Oakwood, a ystyrir yn un o 10 parc thema gorau'r DU. Mae gan y parc reidiau ac atyniadau o’r radd flaenaf, gan gynnwys y car sglefrio pren enwog, Megafobia . Gerllaw, pam na wnewch roi cynnig ar y Crystal Maze – sy’n seiliedig ar y rhaglen deledu, lle mae timau yn rhoi eu sgiliau meddwl a’u corff ar brawf, mewn amrywiaeth o heriau, sy’n cael eich calon i guro. I’r gogledd o Fae Abertawe, ewch i fyny’r dyffryn at Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru, Ogofâu Dan yr Ogof, a ddyfarnwyd ynrhyfeddod naturiol mwyaf ardderchog Prydain, ac mae’r system ogofâu dros 10 cilomedr o hyd! Archwiliwch yr ogofâu ac ewch i weld yr atyniadau amrywiol sydd ar gael.
Os ydych chi’n wir fwynhau’r awyr agored, mae’n werth cymryd amser i fynd i Fannau Brycheiniog… awr yn unig mewn car, o Ddinas Abertawe.


