Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Buddsoddi yn > Bae Abertawe syn newid a datblygu

Bae Abertawe Syn Newid A Datblygu

Mae Bae Abertawe’n trawsnewid...

Baglan Bay Gateway...i fod yn rhanbarth dinas y Glannau deinamig, ac yn gweld lefelau o fuddsoddi na fu eu tebyg.
Mae llawer o ddatblygiadau mawr wedi cael eu cwblhau’n ddiweddar,

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Stadiwm Liberty
  • Technium Abertawe (adeiladau I a II)
  • Pwll Cenedlaethol Cymru
  • Pont y Gogledd Abertawe
  • Pont Trafalgar
  • Athrofa Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe
  • Parc Ynni Baglan

... ac mae llawer iawn, iawn mwy ar y gweill.

Mae menter ar y cyd rhwng Hammerson plc ac Urban Splash wedi cael ei ddewis gan Cyngor Abertawe a’i bartner, Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG), i arwain adfywiad gwerth £1 biliwn o brif safleoedd adwerthu a glannau'r ddinas dros y 10 mlynedd nesaf. I’r gorllewin, mae datblygiad Morlan Elli yn trawsnewid y glannau yn gymuned busnes, hamdden a phreswyl newydd a llewyrchus. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, Parc Ynni Baglan yw cam cyntaf adfywio Bae Baglan, safle datblygu sengl a fydd yn gyfanswm o 1,500 erw yn y pen draw. Mae cyfleoedd ar gyfer diwydiannau cynhyrchu a gwasanaeth ar y safle pwysig a strategol hwn sydd mewn lleoliad delfrydol wrth ochr Cyffordd 41 traffordd yr M4. Gerllaw, bydd pentref trefol Coed Darcy gwerth £1.2 biliwn, yn ymfalchïo mewn pedair ysgol newydd, cyfleusterau iechyd a chwaraeon, canolfan gymunedol a siopau, yn ogystal â thua 4,000 o gartrefi.

Ewch i 'datblygiadau allweddol' i weld rhai o’r prif brosiectau sydd ar waith ym Mae Abertawe

Swansea Bay Film

Darganfod mwy am Buddsoddi ym Mae Abertawe

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet