Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Buddsoddi yn

Buddsoddi Yn Bae Abertawe

Bae Abertawe – lle mae buddsoddiad yn dod yn fyw!

Mae rhinweddau naturiol Bae Abertawe wedi cael eu cydnabod ers amser - mewn gwirionedd, Gŵyr oedd yr ardal gyntaf i’w dynodi’n swyddogol yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Yn sicr ddigon, nid yw’r manteision y daw cyd-leoliad dinas, arfordir a chefn gwlad i’r rhanbarth yn ddim cyfrinach i’r rheiny sy’n ddigon ffodus i fyw, gweithio a chwarae yma.

Ond nid yw’r ffaith bod Bae Abertawe yn lle ardderchog i gynnal busnes - p’un ai’n fasnachwr annibynnol, mentrau bach a chanolig (SME), neu gwmnïau amlwladol enfawr - ond wedi gwawrio ar lawer (byddai rhai yn dweud cyfrwys) o bobl fusnes yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae amrywiol gyfleoedd am isadeiledd brics a mortar; beth bynnag yw’r math o adeilad rydych chi’n chwilio amdano. Mae gweithlu cryf, medrus, yn awyddus i aros yn yr ardal ac ansawdd bywyd arbennig yn cael ei gynnig i helpu i ddenu’r rheiny y gallai fod eu hangen arnoch o’r tu allan i’r rhanbarth. Ychwanegwch at hynna Brifysgolion o arbenigrwydd, gyda hanes o gydweithio â’r sector preifat, a byddwch yn dechrau gweld yn fuan pam mai Bae Abertawe yw’r lle i fod… a llawer iawn mwy.

Mae Bae Abertawe eisoes yn gartref i ystod eang o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys HSBC, Amazon, Admiral, BT, Virgin media, International Rectifier, Pure Wafer a’r cwmni ymholiadau rhifau ffôn 118UK.

Dewisodd Amazon Gastell-nedd Port Talbot yn lleoliad ar gyfer eu 4edd ganolfan ddosbarthu yn y DU yn 2007, gan enwi cronfa o ddawn gref leol, cydweithrediad a chymorth yr Awdurod Lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac agosrwydd y lleoliad i Lundain, yn rhesymau dros iddynt ymddiried rhan hanfodol o’i fusnes i Fae Abertawe.

Hefyd yn 2007, cyhoeddodd The Connaught Motor Company ei fod am sefydlu ei bencadlys byd-eang gwerth £12m yng nghanolfan Peirianneg Perfformiad Technium ger Llanelli, Sir Gâr. O’r pencadlys newydd hwn, bydd Connaught yn cyfarwyddo cynllunio ac adeiladu ei sbortscar hybrid Type D.
Yn y cyfamser yn Abertawe, dewisodd Alliance Boots, y fferyllwyr Stryd Fawr byd-eang, Athrofa Gwyddor Bywyd newydd ei hagor Prifysgol Abertawe sydd werth £50 miliwn, i leoli Canolfan Arloesi unigryw Boots gwerth £3 miliwn. Mae’r Ganolfan a agorodd yn 2007, yn bartneriaeth rhwng Alliance Boots, Athrofa Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe a chwmni cyfalaf mentro arbenigol Longbow Capital LLP, yn helpu ymchwiliwyr a mentrwyr o wledydd ledled y byd i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer silffoedd Boots. Meddai Syr Nigel Rudd, Cadeirydd Alliance Boots plc, wrth lansio’r prosiect: “Mae’r cyfuniad o Boots, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle ardderchog i Ganolfan Arloesi Boots fod yn bwerdy gwirioneddol o ran datblygu cynnyrch o amgylch y byd.

Mewn man arall yn Abertawe, mae llawer o gynlluniau mawr ar waith, gan ddangos hyder yn y Ddinas ei hun wrth barhau i gynnal ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch yn y cymunedau.
Un o’r cynlluniau yw Ardal Gwella Busnes (BID) cyntaf erioed Cymru. O dan y cynllun hwn, mae dros 700 o fasnachwyr canol y ddinas yn ymwneud yn weithredol â nodi, cyllido a rheoli prosiectau a fydd yn gwella calon fasnachol yr ardal. (Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan BID Abertawe isod).

Felly, os ydych chi’n meddwl am fuddsoddi, p’un ai’n fusnes sy’n dechrau, yn ehangu, yn adleoli neu’n fusnes atodol, dylai Bae Abertawe fod ar eich rhestr o fannau i’w hystyried. Archwiliwch y tudalennau ar y dde am fwy o wybodaeth a chysylltiadau at sefydliadau cyswllt allweddol a all eich cynorthwyo ar eich llwybr buddsoddi, neu’r cyfan y mae gofyn i chi ei wneud yw ein ffonio ac fe sicrhawn eich bod yn cael eich cysylltu â’r bobl gywir ar gyfer dyheadau eich busnes.

A oeddech chi’n gwybod?

  • Mai Bae Abertawe oedd cartref i uned hybu busnes Technium cyntaf y DU.
  • Bod Abertawe yn gartref i Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS) newydd gwerth £50m, sy’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, IBM a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Bod ILS yn gartref i’r uwchgyfrifiadur 'Blue C' – un o’r cyfrifiaduron cyflymaf yn y byd, sy’n benodedig ar gyfer gwaith ymchwil i wyddor bywyd.
  • Bod yr Athrofa Telathrebu Uwch (IAT), buddsoddiad gwerth £30m, yn gydweithrediad mawr arall, wedi’i gartrefu ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Bod Parc Ynni Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi ennill Gwobr Adfywio Trefol Prydain (BURA) ar gyfer arfer da mewn adfywio, un o’r unig ddau brosiect yng Nghymru i ennill gwobr. 

 
Swansea Bay Film

Darganfod mwy am Buddsoddi ym Mae Abertawe

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet