Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Bae Abertawe wedi cael ei drawsnewid yn economi fodern â’r sector gwasanaeth yn bennaf. Maent wedi ymgodymu ag etifeddiaeth hanesyddol diffeithdra diwydiannol, ac mae’r ddinas a’r rhanbarth yn cael eu hailddyfeisio. Gyda lefelau o fuddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf na welwyd mo’u tebyg, mae Bae Abertawe yn trawsnewid yn rhanbarth dinas Glannau ddeinamig gyda datblygiad economi gwybodaeth wrth graidd ei nodau ar gyfer y dyfodol.
Mae Bae Abertawe wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol a thyfiant mewn cyflogaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Mae buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat mewn datblygiadau fel SA1 Glannau Abertawe, yr Athrofa Gwyddor Bywyd, Stadiwm Liberty, Parc Ynni Baglan, Morlan Elli a chae ras Ffos Las, yn fynegiant arwyddocaol o’r hyder newydd hwn. Mae’r ddeinamiaeth hwn ynghyd â’r amgylchedd naturiol syfrdanol, yn gwneud Bae Abertawe yn lle bywiog lle mae pobl yn wir eisiau byw a gweithio.
Gweler ein tudalennau buddsoddi mewn am fwy o wybodaeth am fusnes ac economi ym Mae Abertawe, gan gynnwys cysylltiadau a sefydliadau allweddol.
Strategaeth Adfywio Economaidd Abertawe
Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant economaidd sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ym mhrif ddinas ranbarthol Abertawe, mae Strategaeth Adfywio Economaidd wedi cael ei lunio a fydd yn arwain adfywiad economi Abertawe dros y deg i bymtheg mlynedd nesaf.
Mae’r Strategaeth wedi cael ei llunio gan Bartneriaeth Adfywio Economaidd Abertawe, ac mae’n anelu at godi lefelau llwyddiant ar gyfer yr holl bobl, busnesau a chymunedau yn Ninas a Sir Abertawe. Gelwir y strategaeth hon yn Abertawe 2020. Nod y strategaeth yw datblygu Abertawe yn:
- Economi sy’n gystadleuol yn rhyngwladol, gyda chyfraddau cynnyrch, cynhyrchiant a chyflog cystal â rhai'r DU o leiaf;
- Canolfan flaenllaw Cymru ar gyfer yr economi wybodaeth, sy’n cael ei chydnabod am fabwysiadu arloesed a rhagweld newid yn y farchnad a thechnoleg;
- Gweithredu gyda phoblogaeth sy’n economaidd weithgar ac sy’n gyfartal o ran maint, fel canran, i gyfartaledd Prydain Fawr, sy’n adnabyddus am ei sgiliau uchel a darparu màs llafur critigol yn y Clystyrau Ffocws blaenoriaeth;
- Dinas falch, fywiog ac uchelgeisiol, yng nghanol rhanbarth ehangach, lle mae pobl eisiau byw a gweithio.
Gellir cael mwy o wybodaeth am Abertawe 2020 ar http://www.swansea2020.com
Cynllun Gofodol Cymru
Ar draws rhanbarth ehangach Bae Abertawe, nod Cynllun Gofodol Cymru yw arwain economi a datblygiad yr ardal. Fframwaith yw Cynllun Gofodol Cymru ar gyfer sicrhau bod datblygiad lleoedd a chyflwyno gwasanaethau, yn gweithio gyda’i gilydd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, a thrwy hynny’n gwella bywydau a ffyniant y dinasyddion yno.
Mae partneriaid y Cynllun Gofodol yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, addysg, iechyd, cludiant, tai, yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg, y trydydd sector, y Ganolfan Byd Gwaith, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, y TUC, partneriaethau twristiaeth, busnesau a nifer o rai eraill.
‘Bae Abertawe – Y Glannau a Chymoedd a Dyffrynnoedd y Gorllewin’ yw un o 6 maes allweddol y Cynllun Gofodol, gyda strategaeth ei hun. Y Weledigaeth ar gyfer y rhanbarth yw:
'Ardal o dyfiant cynaliadwy a gwelliant amgylcheddol wedi’i gynllunio, yn gwireddu ei photensial, ac yn cael ei chefnogi gan gludiant integredig yn yr ardal ac yn allanol, a lledaenu llwyddiant i gefnogi adfywiad Gorllewin Cymru'.
Ym Mae Abertawe ac ardaloedd Cymoedd a Dyffrynnoedd y Gorllewin, mae’r partneriaid sy’n ymwneud â’r Cynllun Gofodol yn dechrau ystod o astudiaethau a chamau i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu yn yr ardal hon. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynhyrchu fframwaith ar gyfer datblygiadau strategol ym Mae Abertawe a Chymoedd a Dyffrynnoedd y Gorllewin a fydd yn helpu’r ardal i wireddu ei photensial fel rhanbarth-dinas cynaliadwy ac integredig erbyn 2021;
- Asesu sut y gall y glannau rhwng Penbre a Phorthcawl gael eu rheoli a’u datblygu er budd yr ardal gyfan;
- Gweithio gyda phartneriaid i ganfod cefnogaeth i helpu pobl ddod yn economaidd weithredol, gan gynnwys pynciau cymdeithasol, iechyd, cludiant a sgiliau;
- Archwilio rhinweddau’r ardal a’u potensial i gyfrannu i dwristiaeth gynaliadwy, yn ogystal â datblygu cyfleoedd ar gyfer hamddena, ymarfer corff a diwylliant i bobl leol;
- Gwireddu potensial Prifysgol Abertawe a chanolfannau rhagoriaeth eraill ar gyfer datblygu’r economi;
- Nodi prinder sgiliau sy’n debygol o rwystro datblygu gweithlu cystadleuol a thyfiant economaidd araf yn yr ardal;
- Datblygu cynllun cludiant integredig ar gyfer yr ardal.
Cysylltiadau defnyddiol
Cynllun Gofodol Cymru
http://new.wales.gov.uk/about/strategy/spatial/?lang=en
Strategaeth Adfywio Economaidd Abertawe 2020
http://www.swansea2020.com/


