Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Byw yn > Bwyd a diod

Bwyd A Diod

Mae Bae Abertawe yn lle rhyfeddol i fyw ac i ymweld ag ef. Mae’r cyfuniad o ddinas fywiog, arfordir deniadol a chefn gwlad hardd, yn ei ddangos ar ei orau, a mae’n cyfrannu’n fawr at y mannau bwyta sy’n rhyfeddol o amrywiol a chyffrous.

Mae’r ardal yn cynnig ystod lawn o gyfleoedd i fwyta allan. Blaswch yr awyrgylch ger glan y môr, mynnwch ddiod yn ardal fywiog y caffis, neu ymlaciwch mewn tafarn cefn gwlad tawel. Mae llawer o fwytai yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n defnyddio cynnyrch lleol, felly, gall pysgod sy’n cael eu dal 200 metr yn unig o’r bwyty, gael eu gweini mewn llai o amser nag y mae’n cymryd i gyrraedd Bae Abertawe!
Mae Bae Abertawe yn magu enw da fel lle da i fwyta allan. Mae’r diwylliant caffi yn ehangu, gyda nifer fawr o leoliadau, o ymyl y traethau i ymyl y dociau, o ganol y ddinas i bentrefi rhamantus, pell. Mae rhywbeth yn bendant yn gweddu i bob poced.

Felly, p’un a ydych chi’n dewis mwynhau’r awyrgylch ar lan y môr, yng nghaffis bywiog dinas Abertawe, neu mewn tafarn cefn gwlad, tawel, mae gan Fae Abertawe rywbeth ar gyfer pob chwaeth. P’un a ydynt yn ddanteithion cartref traddodiadol o Gymru, neu’n fwyd egsotig o wledydd pell, mae gwledd flasus yn aros amdanoch chi.

Food Passion GuideBellach wedi’i sefydlu fel canllaw bwyd a bwytai Bae Abertawe, y Mwmbwls a’r Gŵyr, mae ‘Food Passion’, llyfr arweiniol lleol RHAD AC AM DDIM yr ardal, yn llawn syniadau da ar gyfer ble i giniawa a ble i gael cynnyrch lleol ffres. Lawr lwythwch lyfr arweiniol eleni isod, neu ewch i’r wefan

www.food-passion.co.uk.

Gallech edrych ar www.visitswanseabay.com am ystod lawn o gyfleoedd i fwyta allan yn ardal Bae Abertawe.

Bon appetit!

 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet