Os ydych chi’n chwilio am wir ansawdd bywyd, gyda’i gymysgedd unigryw o ddinas fywiog, arfordir syfrdanol, a chefn gwlad arbennig o amrywiol, gallai byw ym Mae Abertawe fod yr ateb!
P’un a ydych chi eisiau amser tawel, hamddenol a chyfle i ymlacio, neu amser deinamig, ysgogol ac ysbrydoledig, mae’r cyfan ym Mae Abertawe.
Mae dros hanner miliwn o bobl o bob lliw a llun eisoes yn byw yn y cornel amrywiol, lliwgar hwn o Gymru - hanner miliwn sydd eisoes yn gwybod ac yn mwynhau manteision galw’r fath ranbarth deinamig a hamddenol yn gartref.
Archwiliwch y cysylltiadau ar y chwith uchod ac edrychwch ar rai o uchafbwyntiau byw ym Mae Abertawe – rydym ni’n meddwl y byddwch chi’n cytuno eu bod nhw’n golygu gwir ansawdd bywyd i chi a’ch teulu.
Wedi’i leoli ar hyd arfordir De Orllewin Cymru, mae Bae Abertawe’n cynnwys; y brif ddinas ranbarthol, dinas Abertawe; Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig cyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr; Sir Gaerfyrddin - ‘Gardd Cymru’, a Chwm Afan a Chwm Nedd, a elwir yn ‘Wlad y Rhaeadrau’.
Mae Bae Abertawe yn gymysgedd unigryw o fywyd y wlad, yr arfordir, a’r ddinas, a gellir mwynhau pob un ohonynt yn hawdd. Yma, mae gennych ddinas ddirgrynol ond cyfeillgar, gydag awyrgylch diwylliannol bywiog ac amrywiol a bywyd nos, ac mae’r cyfan tua 10 munud ar droed yn unig o draeth euraidd pum milltir o hyd. Mewn gwirionedd, y traethau a’r arfordir yw calon bywyd ym Mae Abertawe - gellir dod o hyd i fwy na 50 o draethau a childraethau eraill ar draws y rhanbarth, gan gynnwys un o’r rhai hiraf yn Ewrop. Tywodlyd, graean bras, caregog, eang neu glyd, mae llawer ohonynt wedi derbyn baner las, ond mae pob un ohonynt yn odidog! Mae’r cefn gwlad bryniog, cyfoethog a’r amgylchedd naturiol sydd o amgylch yn daith fer yn unig yn y car i ffwrdd, a gellir mwynhau awyr agored gwych Bae Abertawe au naturel neu trwy’r parciau, gerddi a gwarchodfeydd natur niferus. Wrth gwrs, mae cyd-leoliad ardderchog arfordir a chefn gwlad yn golygu bod cyfleoedd diddiwedd hefyd i fod yn fywiog a mwynhau syrffio, beicio mynydd, cerdded, a llawer mwy.
Dinas fywiog a deinamig wrth y glannau
Abertawe yw ail ddinas Cymru, a phrif ddinas ranbarthol De Orllewin Cymru. Mae’r ddinas ddeniadol hon wrth y glannau yn ffynnu ac mae ganddi uchelgais a chynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.
Wedi’i leoli ar hyd pum milltir o Fae Abertawe, dim ond 10 munud ar droed o olygfeydd gwych y bae yw canol y ddinas, gyda’r pleser o fynd am dro trwy’r Ardal Glan y Môr a’r Marina i’w mwynhau ar y ffordd. Anadlwch yn ddwfn ac arogli awyr iach y môr!
Mae marchnad Abertawe yng nghanol y ddinas - marchnad dan do fwyaf Cymru. Mae stondinau yn gwerthu popeth o grefftau lleol i offer trydanol, ac yn cynnig amrywiaeth syfrdanol o gynnych ffres lleol, ac mae llawer ohono’n cael ei dyfu neu ei ddal yn lleol, ac mae’r ardal yn enwog am hyn; Cig Eidion Gwartheg Duon Cymreig, cocos lleol a bwyd y môr, pysgod ffres, gan gynnwys eog a brithyll môr, bara lawr, ham melys Caerfyrddin, llysiau sy’n cael eu tyfu gartref, picau ar y maen ffres, hufen ia blasus a chawsiau ffermdy blasus sydd wedi ennill gwobrau. Gallwch ddod o hyd i bron â bod unrhyw beth ym Marchnad Abertawe, ac mae’n lle gwych i brofi haelioni’r tir a’r môr drosoch chi eich hun. Blaswch y cocos ffres sy’n cael eu gwerthu ar y stondinau canol, neu bicau ar y maen yn boeth oddi ar y radell, a chymrwch sylw o brofiad swnllyd, synhwyraidd y farchnad, sy’n cael ei fwynhau gan ymwelwyr a phobl leol, fel ei gilydd.
Mae’r siopau amrywiol a geir yn Abertawe yn well oherwydd y siopau annibynnol niferus sydd ochr yn ochr â siopau’r Stryd Fawr y byddech yn eu disgwyl - a gyda rhaglen ail-ddatblygu canol y ddinas enfawr ar y gweill, mae therapi siopa ond yn mynd i fod yn fwy ac yn well!
Gan roi siopa i’r naill ochr, mae yna lawer iawn o weithgareddau eraill i’ch difyrru chi. Gallech wlychu’ch troed ym mhwll nofio Cenedlaethol Cymru sydd o faint Olympaidd 50m neu ddeifio i mewn i ganolfan hamdden newydd Abertawe gwerth £32 miliwn, yr LC, sy’n cynnwys parc dwr dan do gyda pheiriant tonnau ffug ar gyfer syrffio... dan do!
Neu, ymunwch â’r torfeydd a mynd i stadiwm Liberty sydd â 20,000 sedd, sy’n gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol y Gweilch, yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cyngherddau gan artistiaid sy’n enwog yn rhyngwladol, fel, The Who ac Elton John.
I’r rheiny sy’n hoff o ddiwylliant, mae gan y ddinas ei hun ystod eang o amgueddfeydd, orielau ac atyniadau ysbrydoledig, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sydd wedi ennill gwobrau, Oriel Gelf Glynn Vivian, Theatr y Grand, a Chanolfan Dylan Thomas - sy’n dathlu bywyd un o feibion enwocaf Bae Abertawe.
Os mai byw yn y ddinas sy’n eich siwtio chi, yna mae gennych chi ddewis o dai Oes Fictoria i fflatiau ar y glannau, gyda nifer o ddatblygiadau newydd ar waith. Os oes yn well gennych fod i ffwrdd o’r ddinas, yna, mae pentrefi prydferth a threfi marchnad yn llawn cymeriad trwy’r rhanbarth, pob un gyda rhywbeth arbennig i’w gynnig… a phob un yn cynnig croeso cyfeillgar.
Wrth i’r haul fachlud, pa bynnag fath o noson allan rydych chi eisiau, p’un ai curiadau mawr, golau llachar a phartio tan y wawr, gwinoedd da, amgylchoedd cyfoes, rhoi tro ar fod yn lwcus yn y casino, neu dreulio’r nos yn un o dafarndai clyd yr ardal, mae Bae Abertawe yn gallu ei gynnig. Eich dewis chi ydyw………..
Milltiroedd ar filltiroedd o forlin tywodlyd eithriadol o hardd…
Mae’r ardal o gwmpas dinas Abertawe a Phenrhyn Gwyr ei hun yn cynnig 32 milltir o arfordir syfrdanol, gyda dros 50 o draethau a childraethau wedi’u henwi - ac mae hynny cyn i chi fynd tua’r gorllewin i brofi gemau euraidd Sir Gaerfyrddin neu tua’r dwyrain i draeth llawn hwyl Aberafan!
Milltiroedd ar filltiroedd o forlin tywodlyd hardd, clogwyni dramatig, llwybrau arfordirol, a golygfeydd diddiwedd o’r môr… p’un ai mewn heulwen odidog, mewn gwynt gwyllt a chryf, neu’n aeafol… beth bynnag yw’r tywydd, mae gan Fae Abertawe forlin syfrdanol.
Nid ni yn unig sy’n meddwl hyn - mae’r ardal wedi derbyn gwobrau a chydnabyddiaeth ers amser maith am ei faeau a thraethau rhyfeddol… gan gynnwys y rheiny sy’n cydnabod mwy na’r ansawdd dŵr ardderchog sydd yma:
Yn 2007, cyrhaeddodd golygfa ragorol Bae’r Tri Clogwyn yn y Gŵyr rownd derfynol Britain’s Best View ar ITV - ynghyd â help llaw oddi wrth gefnogwr, seren opera a merch leol y Tri Chlogwyn, Kathryn Jenkins! Mae Pen Pyrod yn Rhosili, ar y llaw arall, wedi cael ei ddyfarnu fel y “lle mwyaf rhamantus i weld yr haul ym machlud yn y DU”, gan ddarllenwyr cylchgrawn Country Living. Neu, os ydych chi’n chwilio am wir gyffro, mae traeth Llangynydd yn cael ei gydnabod fel un o’r traethau syrffio gorau yn y DU oherwydd cysondeb y syrff yma… efallai oherwydd bod gan yr ardal yr un o’r llanw môr uchaf yn y DU.
Mae gan ddinas Abertawe bum milltir o’i draethlin ei hun. Mae’n lle ardderchog ar gyfer cinio al fresco neu’r lle perffaith i roi eich traed i fyny, ymlacio a dadflino ar ôl diwrnod prysur yn y ddinas. Ewch ymhellach i’r Gorllewin, a chewch hyd i Draeth Cefn Sidan a Phen-bre - un o draethau hiraf Ewrop, a mwy na thebyg, un o’r rhai mwyaf, a mwyaf tywodlyd rydych chi byth yn debygol o’i droedio - mae e mor hir, roedd y pen pellaf ym Mhentywyn yn cael ei ddefnyddio gynt ar gyfer cynigion i dorri’r record cyflymder ar dir! Os ydych chi eisiau mwy na môr a thywod, ewch i lan môr Aberafan lle bydd plant, yn arbennig, yn dwlu ar y cae chwarae aquasplash a beicio ar hyd y promenâd.
P’un ai ar gyfer padlo, nofio, syrffio, hwylfyrddio, cychod, snorclo, plymio, sgïo jet, syrffio â barcud, marchogaeth, rhedeg, cerdded, mynd am bicnic, neu aros, eistedd ac ymlacio (whiw!)… mae yna draeth ar gyfer pob gweithgaredd a phob hwyl. Diolch i’r morlin amrywiol sy’n ymddangos yn ddiddiwedd, gallwch ddod o hyd i fannau tawel hyd yn oed yng nghanol yr haf i ddianc a chymryd amser i gael awyr iach.
Yn fyr, bydd morlin ysbrydoledig Bae Abertawe yn eich adfywio a byddwch eisiau mwy.
Cefn gwlad ysbrydoledig sy’n llawn gweithgaredd
Mae harddwch ffisegol pur cefn gwlad naturiol Bae Abertawe yn syfrdanol. Mae amgylchedd gwledig funudau’n unig o bob pentref, tref a hyd yn oed dinas Abertawe ei hun, sy’n cynnig y cyfle i chi fod yn un â natur.
Cydnabuwyd Penrhyn Gŵyr, i’r gorllewin o ddinas Abertawe, ym 1956 fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU, ac mae’n parhau i fod yn un o’r ardaloedd syfrdanol o gefn gwlad ac arfordir yn y DU heddiw. Yma, ac mewn nifer o leoliadau eraill ar draws y rhanbarth, byddwch yn darganfod llawer o warchodfeydd natur dynodedig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - yr amrediad mwyaf amrywiol o gynefinoedd ag y cewch chi unrhyw le yn y DU .
Cewch eich ysbrydoli gan barciau a gerddi ffurfiol y rhanbarth. Ewch am dro o gwmpas Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru neu’r gerddi yn Aberglasney sydd wedi cael eu hail-ddarganfod. Cymerwch sylw o’r arddangosfeydd ym Mharc Singleton a Gerddi Clyne yn Abertawe, neu ewch am dro o gwmpas Parc hyfryd Margam… cymryd amser i fwynhau’r digwyddiadau ac adloniant rheolaidd sy’n cael eu cynnal i’ch denu chi.
Mae llawer iawn o ffyrdd i fwynhau’r amgylchedd arbennig hwn - a nifer o ganolfannau gorchwylion awyr agored ac arbenigwyr sy’n gallu helpu i’ch arwain, eich cyfarparu a’ch dysgu chi ar hyd y ffordd hefyd! Ac mae cymaint o ddewis… marchogaeth, dringo creigiau, pysgota, golffio, cerdded, gwylio adar a beicio, i enwi ychydig yn unig. Wrth gwrs, mae nifer o bobl yn ymlacio a chymryd eiliad neu ddwy yn y lle agored hwn i fyw a gweithio.
Os ydych chi’n hoffi beicio, mae llawer o ddewis i chi. Cliriwch eich pen a rhyddhewch eich meddwl, ar lonydd gwledig braf trwy gefn gwlad ffrwythlon y Gwyr, ar adrannau traws gwlad y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, neu ar hyd y llwybrau beicio dynodedig, fel Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.
Gyda dros 60 milltir o lwybrau beicio mynydd nefolaidd ar gael, ewch i Barc Coedwig Afan, sy’n enwog yn rhyngwladol, lle gallwch ymgodymu â llwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf... mae’n lle delfrydol i deimlo rhuthr o adrenalin, ac anghofio blinderau bywyd.
A oes yn well gennych ddwy droed na dwy olwyn? Bydd crwydrwyr, a dringwyr bryniau mwy anturus, yn cael eu cyffroi gan amrywiaeth y rhanbarth. Rhyfeddwch at lynnoedd rhewlifol y Mynyddoedd Du Sir Gaerfyrddin, rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ewch am dro trwy Gwm Nedd, a chael eich rhyfeddu gan ei raeadrau syfrdanol. Mae cerdded ym Mae Abertawe yn bleser go iawn… ac nid ydych chi byth yn gwybod pryd y gallech ddod ar draws un o gofadeiladau hynafol niferus yr ardal.
Mae cefn gwlad Bae Abertawe yn cynnig cefndir i fywyd sy’n newid yn gyson, ond bob amser yn hardd - a p’un ai eich bod chi eisiau iddo eich tawelu, eich cyffroi neu eich bywiogi, mae’r dewisiadau ar gyfer ei fwynhau yn ddiddiwedd… mae’r cyfan yma, ar garreg ein drws.
Mae Bae Abertawe yn hawdd ei gyrraedd, ar draffordd yr M4 gerllaw, ac mae’n rhan o’r rhwydwaith rhyng-ddinesig sy’n cysylltu dinas Abertawe a Paddington Llundain mewn tua thair awr. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd tua 40 munud mewn car i’r dwyrain o Abertawe, ac mae yna deithiau rheolaidd ar awyren i Schipol… ac o fan honno, i bron unrhyw le yn y byd.
Mae byw ym Mae Abertawe yn fyw go iawn... mae’r rheiny ohonom sy’n ddigon ffodus i wneud hynny, yn meddwl nad oes unrhyw le brafiach i fyw, gweithio a chwarae. Ar ôl i chi brofi bywyd Bae Abertawe eich hun, byddwch chi’n deall beth roedd Dylan Thomas yn ei olygu pan wnaeth ei alw’n “fynwent uchelgeisiau”… fyddwch chi byth eisiau byw unrhyw le arall.
Dewch i Fae Abertawe – Dewch yn Fyw!
A oeddech yn wybod?
- Mae’r Stadiwm Liberty, gwerth £27miliwn, yn gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, a thîm rygbi rhanbarthol y Gweilch, ac mae cyngherddau wedi cael eu cynnal yno gan enwogion cerddorol fel Elton John a The Who
- Mae gan Abertawe ei draeth tywodlyd, pum milltir o hyd ei hun, sydd 10 munud ar droed yn unig o ganol y ddinas
- Yr LC, a agorwyd ym mis Mawrth 2008, yw canolfan hamdden gwerth £32 miliwn Abertawe, a’r parc dwr dan do mwyaf yng Nghymru, ac mae’n cynnwys reid sefyll ar fwrdd syrffio (syrffio dan do!)
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain , Penrhyn Gwyr, ym Mae Abertawe
Mae gan Farina Abertawe Faner Las a Gwobrau’r Golden Anchor - Mae’r ardal o gwmpas dinas Abertawe a’r Gwyr yn cynnig 32 milltir o arfordir syfrdanol, gyda dros 50 o draethau a childraethau wedi’u henwi, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu dyfarnu ymhlith y traethau gorau ym Mhrydain gan BBC Holiday, The Independent a Country Life Magazine
- Gyda 60 milltir o drac sengl beicio mynydd, mae Parc Coedwig Afan, sy’n enwog yn rhyngwladol, yn ymddangos ar restr ‘20 disgyniad beicio mynydd gorau'r DU’ cylchgrawn What Mountain Bike Guide, yn ogystal â’i gydnabod fel yr unig lwybr yn y DU i ymddangos ar eu rhestr ‘Y deg lle gorau i chi feicio cyn i chi farw’


