P’un ai eich bod chi’n edrych am ddiwrnod allan tawel i’r teulu, anturiaethau llawn mynd neu rywbeth yn y canol, diolch i gyd-leoliad cefn gwlad a milltiroedd o forlin godidog, mae Bae Abertawe yn cynnig amrywiaeth mawr o weithgareddau.
Mae dewisiadau’n amrywio o hwylfyrddio, hedfan, beicio mynydd, syrffio barcud, marchogaeth, heicio, hwylio, golff, beicio, syrffio, llafnrolio, tennis, sgïo jet, bowlio, deifio, nofio, dringo creigiau, arforgampau, sgïo ar lethr sych, pysgota, i fynd am dro trwy awyr agored rhyfeddol Bae Abertawe a chymryd eiliad i aros, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd prydferth. Mewn gwirionedd, nid beth i’w wneud fydd y broblem, ond sut i gael amser i wneud y cyfan!
Nid oes ots a ydych chi’n brofiadol neu ond yn dechrau, darperir ar gyfer pob lefel, ac mae’r arfordir a chefn gwlad yn gefndir rhyfeddol i weithgareddau mudiadau. Gyda nifer o grwpiau lleol, mudiadau a chanolfannau penodol o gwmpas, nid oes prinder cyngor, offer neu glust parod i wrando ar eich campau.
Gyda’r amrediad llanw ail fwyaf yn y byd a rhai o draethau syrffio gorau’r DU, mae chwaraeon dŵr yn arbenigedd ym Mae Abertawe, beth bynnag fo’ch lefel! Mae syrffio yn arbennig o dda o amgylch y Gŵyr, ac mae sawl ysgol syrffio achrededig i ddewis ohonynt. Cewch donnau da ym Maeau Langland a Bae Caswell, ychydig funudau mewn car o’r Mwmbwls, ac mae Llangynydd, ar frig gorllewinol Penrhyn Gŵyr wedi derbyn clod 'The Guardian' a 'The Observer' am ansawdd y tonnau yno.
Os nad yw’r amodau’n iawn, dim problem! Mae parc dŵr dan do mwyaf yng Nghymru, yr LC, yn cynnwys rhwydwaith o byllau, reidiau a sleidiau, gan gynnwys Master Blaster a’r BoardRider - peiriant syrffio wrth sefyll dan do cyntaf Prydain. Felly, gallwch fod yn siŵr o gael tonnau yn yr LC, beth bynnag yw’r tywydd y tu allan! Hefyd, yn Abertawe, defnyddir Pwll Cenedlaethol Cymru o faint Olympaidd 50m gan y cyhoedd a phobl broffesiynol fel ei gilydd ac mae newydd dderbyn Statws Canolfan Hyfforddi Dwys (ITC) gan Nofio Prydain. Yn un o ddim ond bump ITC yn y DU, bydd yn dod yn lle i feithrin nofwyr ar gyfer cystadlu yng Ngêmau Olympaidd Llundain 2012. Mae canolfannau hamdden rhanbarthol trwy Fae Abertawe yn cynnig amrywiaeth o byllau nofio eraill, yn ogystal â chyrtiau tennis, badminton a sboncen, caeau pêl-droed, caeau rygbi, cyfleusterau athletau, campfeydd a sgwariau bocsio, ynghyd ag ystod o raglenni ffitrwydd a hyfforddi.
Os byddai’n well gennych gadw’ch traed yn sych, mae gan ardal Bae Abertawe rai o gyrsiau golff harddaf Cymru - mewn gwirionedd, gallai’r golygfeydd ysblennydd o'r môr fod yn esgus da dros golli’r ergyd! A hoffech roi prawf ar eich swing ar gwrs 18 twll? Gyda chyrsiau parcdir, rhostir, pencampwriaeth, a meysydd golff clasurol, (mae un 200 troedfedd uwchben y môr oddi tano!) yn ogystal â’r cwrs golff cyntaf a gynlluniwyd gan Nicklaus yng Nghymru, bydd gennych ddewis mawr. Mae nifer o gyrsiau 9 twll hefyd, yn ogystal â meysydd ymarfer golffio, pitsio a phytio a hyd yn oed golff gwyllt.
Ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i wisgo eu esgidiau cerdded, mae tirwedd amrywiol Bae Abertawe yn baradwys wirioneddol i gerddwyr. P’un ai eich bod chi am fynd am dro ysgafn neu drampio’n galed, mae holl bleserau naturiol Penrhyn Gŵyr, (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig cyntaf Prydain), Sir Gâr, ‘Gardd Cymru’, Cwm Afan sy’n cael ei adnabod fel ‘Y Swistir Fach’ a Chwm Nedd a elwir yn ‘Wlad y Rhaeadrau’, ar eich carreg drws. Mae’r Mynydd Du â’i lyn rhewlifol yn siŵr o wneud i chi aros am eiliad, fel y mae’r rhaeadrau godidog yng Nghwm Nedd - yn enwedig ar ôl glaw trwm! Fyddwch chi byth yn gwybod pryd y gallech ddod ar draws un o gestyll a safleoedd treftadaeth niferus Bae Abertawe. Hefyd, mewn taith lai nag awr mewn car, gallwch weld hyfrydwch syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gallwch hyd yn oed fynd dan ddaear yn Dan yr Ogof, Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru. Wedi’i leoli hanner ffordd rhwng Abertawe ac Aberhonddu, dyfarnwyd Dan yr Ogof yn ddiweddar yn “rhyfeddod naturiol gorau Prydain". Gall ymwelwyr dydd gael blas o hud a lledrith yr ogofâu arddangos cyhoeddus ac anogir ogofwyr profiadol i archwilio’r 17 cilomedr sy’n gorwedd y tu hwnt.
Mae Bae Abertawe yn freuddwyd wedi’i gwireddu i feicwyr - p’un ai eich bod chi eisiau lonydd gwledig tawel, heddychol, ffordd beicio syfrdanol 22 cilomedr heb draffig llwybr arfordirol y Mileniwm, neu eisiau beicio’n galed ar lwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf ym Mharc Coedwig Afan.
Mae Parc Coedwig Afan yn ymestyn dros 64 cilomedr sgwâr gyda 30,000 hectar o goedwig, ac yn ogystal â bod yn gyrchfan poblogaidd iawn ar gyfer cerdded, beicio, cyfeiriannu, a gwersylla, mae’n lle delfrydol i deimlo rhuthr o adrenalin. Mae Parc Coedwig Afan yn gartref i bump llwybr beicio mynydd o’r radd flaenaf, a dyma’r unig leoliad yn y DU i ymddangos ar restr ‘Deg lle i feicio ynddo cyn i chi farw’, What Mountain Bike Magazine. Mae’r llwybrau’n amrywio fel eu bod yn addas i allu pawb, ond mae llwybr beicio dynodedig i deuluoedd hefyd ar gyfer y rheiny sy’n llai anturus. Mae llawer o gwmnïau llogi beiciau yn gweithredu yn y Parc Coedwig, a byddant yn dod â’r beiciau atoch a hefyd yn cysylltu â chludiant cyhoeddus, os bydd angen. Cymaint yw apêl y cyfuniad o wefr a harddwch llwybrau Afan, fel bod beicwyr mynydd yn dod o ledled Ewrop i gael profiad o’r cyfan sydd gan y Parc Coedwig i’w gynnig, drostynt eu hunain.
Un o’r cyrchfannau beicio mynydd gorau eraill yw Coedwig Brechfa yn Sir Gâr. Gyda 3 llwybr sy’n amrywio o ran anhawster, mae’n lle perffaith i’r rheiny sy’n hoffi beicio’n hamddenol, yn ogystal ag ar gyfer y rheiny sydd eisiau mwy!
Fel arall, os ydych chi’n fwy o wyliwr nag o gyfranogwr, ewch i arena chwaraeon arbennig Abertawe, Stadiwm Liberty â 20,300 sedd, a agorodd yn 2005. Mae’n gartref i dîm pêl-droed Pencampwriaeth Dinas Abertawe sydd newydd gael ei ddyrchafu, a Chlwb Rygbi’r Gweilch, ac mae’r Liberty hefyd wedi cynnal cyngherddau gan y mawrion fel The Who ac Elton John.
Mae’r Gweilch yn brif dîm rygbi rhanbarthol, sy’n enwog am feddwl yn arloesol ar y cae ac oddi arno. Gyda chwaraewyr byd enwog fel Gavin Henson, Ryan Jones a Shane Williams yn y tîm, gobaith y Gweilch yw eu sefydlu eu hunain yn rym byd-eang ym maes Rygbi.
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, yn y cyfamser, yn bendant wedi cael effaith syfrdanol ar fywyd yn eu cartref newydd trawiadol yn Stadiwm Liberty. Gyda’r torfeydd yn heidio yn niferoedd mawr iawn i wylio’r Elyrch ar waith, mae’r symud i’w cartref newydd wedi cynnau oes ddisglair newydd yn hanes balch pêl-droed Abertawe. Mae’r Elyrch yn bendant wedi rhoi Stadiwm Liberty ar dân gyda Roberto Martinez a’i ddynion yn denu adolygiadau canmoliaethus o bob man ar ôl ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf. Mae’r Elyrch uchelgeisiol bellach yn benderfynol o gadw i wthio tuag at eu breuddwyd o fod yn y Gynghrair gyntaf.
Mewn mannau eraill ar draws Bae Abertawe, mae breuddwydion eraill ym myd chwaraeon yn y broses o gael eu gwireddu…
Cae Ras Ffos Las gwerth £20m, ar hen safle cloddio glo brig 600 erw i’r gogledd orllewin o Lanelli, fydd datblygiad cae ras National Hunt newydd cyntaf y DU ers 80 mlynedd. Wedi’i leoli mewn ardal â chymeriad trawiadol a harddwch naturiol gyda golygfeydd syfrdanol i lawr Cwm Gwendraeth ac ar draws Bae Caerfyrddin, mae un cyfarfod ar bymtheg y flwyddyn wedi cael eu trefnu eisoes ar gyfer y cwrs gan Fwrdd Rasio Ceffylau Prydain. Honnir hefyd bod hinsawdd Bae Abertawe yn fuddiol iawn i rasio ceffylau oherwydd yr amodau tywydd unigryw a ddaw yn sgil yr arfordir a Llif y Gwlff. Hefyd, mae’n naturiol mewn llawer ffordd, gan fod rasio a gweithgareddau ceffylau wedi bod yn rhan o fywyd Bae Abertawe ers amser maith. Gyda mynediad hawdd at Iwerddon ar y fferi neu awyren, mae’n edrych yn debyg y bydd Ffos Las yn denu’r frawdoliaeth rasio Wyddelig enfawr, ac os bydd cynlluniau i sefydlu gŵyl Geltaidd yn Ffos Las o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi yn dwyn ffrwyth, gallai Bae Abertawe fod yn cynnal digwyddiad allweddol yn arwain at Ŵyl Cheltenham, am flynyddoedd i ddod.
Ychydig yn llai cystadleuol, ond nid yn llai o hwyl, yw ‘Go Ape’ ym Mharc Margam ym Mhort Talbot. Mae 'Go Ape', yr atyniad newydd gwerth £300,000 a’r cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn antur coedwig gwifren uchel.
Mae’r cwrs yn cynnwys pontydd rhaff, trapisau a sleidiau sip trwy uwchdyfiant y goedwig. Er mwyn cymryd rhan ar y llwybr antur, bydd pobl yn cael harnais ac yn cael sesiwn hyfforddi 30 munud o hyd. Dewch i Fae Abertawe – Dewch yn fyw!
A oeddech chi’n gwybod?
- Y cynhaliwyd Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yng Nghymru, ac y chwaraewyd y gêm derfynol yn Stadiwm Liberty, Abertawe. (2008)
- Y rhestrodd rhedwyr, Abertawe yn 7fed dinas orau'r DU ar gyfer rhedeg.(2008)
- Yr ymddangosodd Parc Coedwig Afan yn What Mountain Bike Guide 2007 ddwywaith yn ei 20 disgyniad beicio mynydd gorau yn y DU, gan osod ‘The Wall’ yn y trydydd safle a Skyline yn y pedwerydd safle.
- Bod gan Glwb Golff a Gwledig Penrhyn Machynys yn Llanelli, yr unig glwb golff yng Nghymru a gynlluniwyd gan Jack Nicklaus, olygfeydd syfrdanol o’r môr ar draws Penrhyn Gŵyr.
- Bod gan draethau Gŵyr rai o’r dyfroedd glanaf yn y DU.


