Swansea Bay
 
 
 

Rydych chi yma: Hafan > Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Ychydig o gwestiynau a ofynnir yn fynych!

Q Sut caiff Swansea Bay Futures ei reoli?

A Mae'n gwmni cyfyngedig drwy warant gyda Bwrdd o Gyfarwyddwyr a dynnwyd o awdurdodau lleol a phobl busnes blaenllaw yn y rhanbarth.

Q. Sut caiff Swansea Bay Futures ei ariannu?

A Darperir cyllid i'r cwmni gan bartneriaid a dynnir o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Q Sut bydd Swansea Bay Futures yn gweithio â sefydliadau eraill sy'n hyrwyddo Abertawe ar hyn o bryd?

A Un o'r swyddogaethau y bydd Swansea Bay Futures yn ymdrin â hi fydd Cynllunio Marchnata Strategol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r holl sefydliadau a grwpiau yn Abertawe sy'n cynnal gweithgareddau hyrwyddo i sicrhau y deuir o hyd i ffordd i bawb weithio gyda'i gilydd – gan gysylltu â brand Abertawe.

Rhan arall o gylch gwaith Swansea Bay Futures yw gwella rhwydweithiau cyfathrebu i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd busnesau ac unigolion yn y Ddinas yn amserol. Dylai hyn fod o fantais i'r holl sefydliadau sy'n hyrwyddo'r Ddinas gan y byddant yn ymwybodol o beth arall sydd yn yr arfaeth, a gall hyn hwyluso cydweithio.

Q Beth yw'r cysylltiad â'r awdurdod lleol?

A Mae Dinas a Sir Abertawe yn ffynhonnell ariannu allweddol i Swansea Bay Futures ac yn bartner allweddol o ran helpu cyflawni ei nodau.

Q Pa gysylltiad a geir gyda busnesau lleol?

A Nod Swansea Bay Futures yw gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol drwy'r cynlluniau llysgennad a phartneriaeth. Gyda'r nod o wella cysylltiadau mewnol o fewn y ddinas, nod Swansea Bay Futures yw gweithredu'n ffynhonnell wybodaeth ganolog, sy'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau am ddatblygiadau cadarnhaol yn y Ddinas.

Q Beth y gobeithir y bydd Swansea Bay Futures yn ei gyflawni?

A Er mai nod Swansea Bay Futures yw codi proffil yr ardal a gwella canfyddiadau, y nod gwaelodol yw cefnogi a datblygu'r economi lleol. Bydd Swansea Bay Futures yn gweithio i gefnogi cyflwyno'r strategaethau sy'n bodoli eisoes a'r strategaethau sy'n datblygu ar gyfer yr ardal, gan gynnwys Cynllun Gofodol Cymru, Cynllun Cymunedol, Strategaeth Adfywio Economaidd, a Strategaethau Twristiaeth.

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn, a rhown yr holl Gwestiynau Cyffredin ar y wefan.

Nodwch y dudalen gyda:

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet