Rydym am i chi gymryd rhan
Gall pawb fod yn rhan o'r ymgyrch i godi proffil Abertawe a newid rhai o'r canfyddiadau negyddol ac anghywir sydd gan nifer o bobl o'r tu allan i'r ardal.
Rydym am iddyn nhw gael gwybod yn union faint sydd gennym i'w gynnig ac i'w herio â phrydferthwch yr ardal, ehangder y cyfleoedd sydd ar gael yma a chymaint yn haws ydyw i fyw bywyd i'r eithaf yn yr awyrgylch o gydbwysedd ac ehangder sydd ar gael yma.
P'un a ydych yn unigolyn sydd am ddangos yr ardal i ffrindiau a pherthnasau, neu'n fusnes sydd am fod yn rhan o'r ymgyrch i symud y ddinas yn ei blaen, rydym am weithio gyda chi. Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan - cliciwch naill ai'r adran 'Busnesau a Sefydliadau' neu'r adrannau 'Fel Unigolyn' i gael mwy o wybodaeth.
Gallwn gyflawni llawer mwy os ydych yn cydweithio gyda ni. Gallwch ein cynorthwyo i wneud y lle yn un gwell i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo, ac i ymweld ag ef !


