Mae gan Fae Abertawe raglen fywiog o ddigwyddiadau busnes, a drefnwyd ac a ddarparwyd gan ystod o sefydliadau busnes yn y rhanbarth, llawer ohonynt yn agored i rai nad ydynt yn aelodau ynghyd ag aelodau.
Yn ogystal â thrafod y digwyddiadau busnes yn y rhanbarth, mae’r gronfa ddata yn cynnwys gwybodaeth am y prif ornestau chwaraeon ym Mae Abertawe a’r rheiny sy’n ymwneud â thimau cenedlaethol pêl-droed a rygbi...gan ei bod yn bosibl y byddant o ddiddordeb i chi!
Os ydych chi eich hun yn trefnu digwyddiad gallwch ddefnyddio’r gronfa ddata i wirio digwyddiadau eraill a allai effeithio ar eich cyfle chi i ddenu’r gynulleidfa rydych eu heisiau.
I ddarganfod yr hyn sydd ar y gweill, lawr lwythwch y gronfa ddata digwyddiadau isod.
Rydym yn ddibynnol ar wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau – gan gynnwys chi – i’w diweddaru, felly os sylwch ar gamgymeriad neu ein bod wedi gadael rhywbeth allan, byddwch mor garedig ag anfon neges e-bost at rachel.cole@swansea.gov.uk neu ffoniwch swyddfa Dyfodol Bae Abertawe ar 01792 634546.


