Diwylliannol, teuluol, chwaraeon, ieuenctid, cerddorol, bwyd, llenyddol, cymunedol, celfyddydol, elusennol, addysgol, neu hwyl pur… mae Bae Abertawe yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau i bawb i’w mwynhau.
Beth bynnag yw’r tymor, a p’un a ydych chi eisiau dysgu rhywbeth, eisiau cymryd rhan, neu gael eich difyrru, mae’n siŵr y bydd rhywbeth o ddiddordeb i chi.
Mae cyfuniad deniadol Bae Abertawe o ddinas fywiog, morlin diddiwedd, a chefn gwlad hardd, yn rhoi’r cefndir a’r ysbrydoliaeth ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau trwy’r flwyddyn.
Mae gwyliau llenyddol, celfyddydol, cerddoriaeth a ffilm, yn ogystal â chyngherddau, perfformiadau, darlleniadau ac arddangosfeydd di-rif ar gael. Mae’r arddangosfeydd niferus, canolfannau'r celfyddydau, a hyd yn oed tir cestyll hanesyddol a phlastai, yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau cerddorol, o opera a cherddoriaeth glasurol at gerddoriaeth ddawns a jas. Ewch at y Dudalen Diwylliant am fwy o syniadau.
Mae carnifalau, sioeau gwledig, ffeiriau crefft a digwyddiadau ar gael yn aml yn y parciau natur a gwledig niferus, yn arbennig yn ystod misoedd yr haf. Carnifal MAS Abertawe, Sioe Sirol Margam, Sioe Gŵyr a Sioe Sir Gâr yw’r rhai mwyaf, ond mae’r rhan fwyaf o drefi a phentrefi yn cynnal eu sioeau, gwyliau a charnifalau amrywiol eu hunain hefyd... a gall ymwelwyr fod yn sicr y byddant yn derbyn croeso cynnes.
Mae’r niferoedd mawr o weithgareddau i’w mwynhau ar draws y rhanbarth yn cael eu cefnogi gan nifer o chwaraeon a digwyddiadau bywiog, fel Sioe Gychod De Cymru, treialon a chystadlaethau beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan, a hyd yn oed ras rafftio enwog y Mwmbwls! Ewch at y Dudalen Chwaraeon a Gweithgareddau am fwy o syniadau ynglÅ·n â sut i gael eich calon i guro.
Mae misoedd y Gaeaf ac amser y Nadolig yn esgus da i Fae Abertawe gynnal digwyddiadau gydag ychydig bach mwy o fywyd. Mae ‘Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’ dinas Abertawe, gyda’i lawr sglefrio ia yn yr awyr agored, olwyn fawr, a reidiau ffair traddodiadol yn ffefryn adeg y gaeaf, ond mae adloniant ar y stryd, marchnadoedd Nadolig yn yr awyr agored, a siopa hwyr yn y nos ar draws Bae Abertawe, yn ychwanegu at y llawenydd. Am fwy o syniadau am therapi adwerthol gydol y flwyddyn, darllenwch y Dudalen Siopa.
Pa bynnag amser o’r flwyddyn yw hi, beth bynnag yw’r tywydd, a beth bynnag yw eich syniad chi o amser da, bydd digwyddiadau ym Mae Abertawe yn eich difyrru chi a’ch teulu.
Am beth rydych chi’n aros? Cliciwch i ddarganfod...
What's on yn Abertawe,
What's on yn sir Caerfryrddin
What's on yn Castell nedd ac afan


