Mabwysiadwyd agwedd o gydweithio ag eraill a defnyddio gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli gan Futures Bae Abertawe er mwyn codi proffil Abertawe a’r cylch er lles pawb.
Mae llawer o’n ffocws ar ddarparu’r adnoddau a fydd yn galluogi hyrwyddo Bae Abertawe ar bob cyfle, ac mae hyn yn golygu casglu gwybodaeth a datblygu deunyddiau sy’n cynorthwyo anghenion y gwahanol gyfleoedd sydd gennym.
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn niferus ac amrywiol ond yn aml maent yn canolbwyntio ar gynulleidfaoedd penodol yn hytrach nag ar y rhai sydd i’w gweld yn fwy eang, gydag o bosibl yr eithriad o weld brand logo Abertawe yn adran 'pic of the day' yr Evening Post (bron) bob dydd. Ymhlith y cyfleoedd a ddefnyddiwyd hyd yn hyn mae
- dolenni ynghylch recriwtio ar gyfer swyddi uwch yn y rhanbarth
- proffilio Bae Abertawe drwy ddigwyddiadau allweddol fel Gwobr Dylan Thomas a Gŵyl Ffilm Abertawe
- darparu deunyddiau er mwyn ychwanegu pwysau ar y perswâd ar fyfyrwyr tramor a’r DU i dderbyn cynigion lleoedd yn Abertawe
- datblygu ymdriniaeth y cyfryngau o Fae Abertawe drwy ymweliadau gan newyddiadurwyr a darnau penodol am y rhanbarth.
... ac mae llawer mwy ar y gweill
Os hoffech ddarllen mwy am yr hyn yn union rydym wedi gweithio arno yna lawr lwythwch adroddiadau gweithgaredd dwy flynedd gyntaf y cwmni.
Rydym bob amser yn agored i awgrymiadau, felly os oes gennych unrhyw syniadau penodol am gyfleoedd y dylem eu defnyddio i hyrwyddo Bae Abertawe, neu syniadau am y deunyddiau cymorth fyddai’n werthfawr, yn eich tyb chi, i’ch cynorthwyo chi ac eraill i chwarae rhan yn hyrwyddo’r ardal, yna cysylltwch â ni.


