Ychydig o gwestiynau a ofynnir yn fynych!
Q Sut caiff Swansea Bay Futures ei reoli?
A Mae'n gwmni cyfyngedig drwy warant gyda Bwrdd o Gyfarwyddwyr a dynnwyd o awdurdodau lleol a phobl busnes blaenllaw yn y rhanbarth.
Q. Sut caiff Swansea Bay Futures ei ariannu?
A Darperir cyllid i'r cwmni gan bartneriaid a dynnir o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Q Sut bydd Swansea Bay Futures yn gweithio â sefydliadau eraill sy'n hyrwyddo Abertawe ar hyn o bryd?
A Un o'r swyddogaethau y bydd Swansea Bay Futures yn ymdrin â hi fydd Cynllunio Marchnata Strategol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r holl sefydliadau a grwpiau yn Abertawe sy'n cynnal gweithgareddau hyrwyddo i sicrhau y deuir o hyd i ffordd i bawb weithio gyda'i gilydd – gan gysylltu â brand Abertawe.
Rhan arall o gylch gwaith Swansea Bay Futures yw gwella rhwydweithiau cyfathrebu i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd busnesau ac unigolion yn y Ddinas yn amserol. Dylai hyn fod o fantais i'r holl sefydliadau sy'n hyrwyddo'r Ddinas gan y byddant yn ymwybodol o beth arall sydd yn yr arfaeth, a gall hyn hwyluso cydweithio.
Q Pa gysylltiad a geir gyda busnesau lleol?
A Nod Swansea Bay Futures yw gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol drwy'r cynlluniau llysgennad a phartneriaeth. Gyda'r nod o wella cysylltiadau mewnol o fewn y ddinas, nod Swansea Bay Futures yw gweithredu'n ffynhonnell wybodaeth ganolog, sy'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau am ddatblygiadau cadarnhaol yn y Ddinas.
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn, a rhown yr holl Gwestiynau Cyffredin ar y wefan.


