Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Buddsoddi yn > Ffeithiau a Ffigurau am Fae Abertawe

Ffeithiau A Ffigurau Am Fae Abertawe

Mae gan ardal Bae Abertawe lawer i’w gynnig, p’un ai fel lle i wneud busnes, rhywle i fyw, i astudio neu i fynd ar wyliau. Mae cyd-leoliad dinas fywiog, arfordir syfrdanol a chefn gwlad toreithiog ac amrywiol yn golygu bod yr ardal yn cynnig amgylchedd, agwedd ac ansawdd bywyd sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli.

Mae Dinas a Sir Abertawe, ynghyd â Dau Awdurdod Unedol, Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot, yn cyfuno i lunio’r ardal sy’n cael ei hadnabod fel Bae Abertawe. Mae Bae Abertawe, mewn gwirionedd yn Rhanbarth Glannau’r Ddinas, gydag Abertawe yn ganolbwynt iddi. Mae dinas Abertawe hefyd yn gweithredu fel prif ddinas ranbarthol De Orllewin Cymru, sy’n cynnwys Sir Benfro.

Pethau i’w gwybod am Fae Abertawe

Cyffredinol

  • Mae Bae Abertawe yn cyfrif am 15% o gyfanswm tir Cymru, a chyda 542,200 o breswylwyr yn 2006, 18% o gyfanswm poblogaeth y wlad.
  • Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru gyda phoblogaeth o thua 225,500.
  • Mae 1.5 miliwn o bobl yn byw o fewn awr i Abertawe.
  • O’r hanner miliwn o bobl sy’n byw o fewn 30 munud i Abertawe, mae 39% yn syrthio yn y grŵp oedran 16 – 44 sy’n gwario llawer.

Busnes

  • Mae Bae Abertawe yn gartref i ystod eang o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys HSBC, Admiral Insurance, Amazon, BT, Virgin Media, 3M, International Rectifier, Tata, Tinopolis, Pure Wafer, The Connaught Motor Company a’r cwmni ymholiadau rhifau ffôn 118 UK.
  • Mae cynlluniau ar gyfer datblygiadau busnes, adwerthu, hamdden a phreswyl yn Ninas a Sir Abertawe, gyda gwerth amcangyfrifedig o dros £1 biliwn dros y deng mlynedd nesaf.
  • Enwyd Abertawe yn 4edd o ran dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ar gyfer busnes gan Faromedr Busnes y Post Brenhinol yn 2008.

Ffordd o Fyw a Hamddena

  • Mae gan yr ardal fwytai o’r radd flaenaf, ystod eang o amgueddfeydd, orielau a lleoliadau gydag adloniant yn y nos, lleoliadau chwaraeon o’r radd flaenaf - gan gynnwys Stadiwm Liberty, cartref tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Pwll Cenedlaethol Cymru sy’n faint Olympaidd 50m, ac LC sydd newydd agor ac a gostiodd £32 miliwn, sef parc dŵr dan do mwyaf Cymru a chartref i beiriant tonnau arbennig er mwyn gallu sefyll ar frig y don dan do.
  • Mae gan Abertawe Farina Baner Las o’r radd flaenaf, ac mae 7 traeth Baner Las ar draws y rhanbarth cyfan.
  • Mae Penrhyn Gŵyr, a ddynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain ym 1956, yn cynnig 32 milltir o arfordir naturiol hardd.
  • Mae nifer o arolygon barn a gynhaliwyd gan amrywiol gyrff, gan gynnwys BBC Holiday, The Independent a’r cylchgrawn Country Life, wedi dangos bod y traethau ar hyd Penrhyn Gŵyr ymhlith y traethau gorau ym Mhrydain.
  • Mae cefn gwlad Cwm Nedd yn cynnwys llwybrau cerdded o’r radd flaenaf ger rhaeadrau ac ar gyfer y rheiny sy’n fwy bywiog, Coedwig Afan, a oedd yn yr 20 disgyniad beicio mynydd gorau yn y DU, yn ôl The Wall (3ydd), Skyline (4ydd) yng nghylchgrawn What Mountain Bike Guide 2007.
  • Rhestrwyd Abertawe yn un o’r dinasoedd diogelaf i fyw ynddi gan ddau arolwg ar wahân a gynhaliwyd gan Endsleigh Insurance a chylchgrawn Men’s Health yn 2006.

Adwerthu

  • Canol dinas Abertawe yw canolbwynt rhanbarthol gweithgaredd adwerthu, gweithgareddau diwylliannol a hamdden, sy’n cael eu cefnogi ar y lefel nesaf, gan ganolfannau trefol llai Caerfyrddin, Llanelli, Castell-nedd a Phort Talbot, ac yn eu tro, gan rwydwaith o ganolfannau siopa rhanbarthol a lleol.
  • Mae Canol Dinas Abertawe yn cyfrif am 48% o arwynebedd llawr cyfunol canol Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot, ac mae ffigurau blynyddol diweddaraf Arolwg Defnyddwyr Canol Dinas Abertawe yn dangos bod 32% o ymwelwyr â Chanol y Ddinas yn dod o rywle arall yn Ne Cymru. Mae hyn yn dangos maint rhanbarthol dalgylch Abertawe.
  • Darperir ar gyfer siopwyr â char yng nghanolfannau y tu allan i’r dref a adeiladwyd i bwrpas, fel Parc Trostre, Cross Hands, Parc Fforestfach, Lakeside a Parc Siopa’r Morfa. Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod yr ardaloedd yn ateb diben siopa hamddenol, gyda siopwyr yn aml yn teithio cryn bellter i siopa mewn lleoliadau y tu allan i’r dref mewn mannau gwahanol.

Dysgu

  • Mae gan Brifysgol Abertawe dros 12,000 o fyfyrwyr ac mae’n cael ei ystyried yn un o 10 prifysgol orau’r DU, gan ei rhoi yn yr ail safle yng Nghymru ac yn yr wythfed safle’n gyffredinol yn y DU, gan Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn 2007.
  • Mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe 3,000 o fyfyrwyr ac mae’n gartref i fenter Canolfan Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol (Ciric) sy’n werth £3.4 miliwn.
  • Mae gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin, 2,200 o fyfyrwyr llawn amser a rhan amser sy’n dod o ledled y DU. Mae cymuned sy’n tyfu o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio ar y campws hefyd.
Swansea Bay Film

Darganfod mwy am Buddsoddi ym Mae Abertawe

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet