Swansea Bay
 
 
 

Rydych chi yma: Hafan > Gweithio yn

Gweithio Yn Bae Abertawe

Mae Bae Abertawe yn lle gwych i weithio ac i fyw.

Dinas Abertawe, ar bum milltir o fae godidog, yw prif ganolbwynt y rhanbarth, er bod gwaith i’w gael ar draws yr ardal, yn aml wedi ei ganoli o amgylch trefi Caerfyrddin, Llanelli, Castell-nedd a Phort Talbot, ac ym mharciau busnes niferus yr ardal. Mae’r rhain wedi’u lleoli ym

• Mharc Menter Abertawe
• Bro Tawe
• Parc Diwydiannol Gorllewin Abertawe, Fforestfach
• SA1 Glannau Abertawe
• Ffordd Fabian
• Parc Ynni Baglan
• Parc Busnes Darcy
• Parc Bwyd Cross Hands
• Parc Hendre
• Dafen/Porth Llanelli

Mae rhai o’r rhain, yn ogystal â safleoedd ym Morlan Elli a Felindre, yn dal i gael eu datblygu, ac yn parhau i ddenu cyflogwyr newydd a chyfleoedd ychwanegol am swyddi yn y rhanbarth.
Dylai tudalennau'r adran hon ddweud popeth rydych chi angen ei wybod am weithio ym Mae Abertawe, ond os na allwch ddod o hyd i rywbeth rydych chi ei angen, yna, cysylltwch â ni.
Ewch i adran fyw y safle, fel eich bod chi’n gallu gweld yn union pam mae Bae Abertawe yn lle gwych i fwynhau ansawdd bywyd ardderchog. Nid lle i fyw er mwyn gweithio yn unig ydyw, ond yn hytrach, gweithio i fyw a mwynhau bywyd i’r eithaf!
Cewch drosolwg o ddaearyddiaeth yr ardal trwy fynd i Google Maps.

 

Nodwch y dudalen gyda:

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet