Swansea Bay
 
 
 

Rydych chi yma: Hafan > Byw yn > Yr Amgylchedd naturiol > Gwyr

Gwyr

 Mae penrhyn Gŵyr yn fan adnabyddus ac annwyl i lawer ledled y byd, dewch i ddeall yn gyflym pam cafodd ei enwi’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) gyntaf erioed yn y DU ym 1956 a pham fod ysgrifenwyr teithio, sêr enwog ac ymwelwyr ffyddlon, yn ei ganmol yn ddi-ben-draw. Yn hynod o hardd ac ond 16 milltir wrth 7 milltir, mae Gŵyr cyn hardded ag erioed ac yn cynnig rhywbeth i bawb – beth bynnag yw eu hoed, beth bynnag maent yn ei wneud yn eu horiau hamdden a hyd yn oed beth bynnag yw’r tywydd!

Fwy na thebyg, mae Gŵyr fwyaf enwog am ei baeau, traethau ac arfordir syfrdanol. Maent yn bendant yn cael mwy o sylw yn y cyfryngau (ac am y rhesymau cywir!) ac yn ôl pob sôn ‘Bae’r Tri Chlogwyn’ yw un o’r golygfeydd y tynnir ei llun amlaf yn Ewrop!
Gyda mwy na 50 o draethau, baeau a childraethau wedi eu henwi, mae’r dewisiadau mor naturiol brydferth ag ydynt o ran amrywiaeth. Gyda milltiroedd o draethau euraidd fel Rhosili, Llangynydd, Bae Oxwich a Chwitffordd gallwch dreulio wythnos gyfan wrth eich bodd yn cerdded neu ymlaciwch yn llwyr a mwynhewch y golygfeydd godidog o’ch amgylch. Gan roi’r prydferthwch naturiol i’r naill ochr am y tro, fel rheol mae rhywbeth arall i’w weld hefyd –cydnabyddir Llangynydd fel un o brif draethau brigo tonnau yn y DU a hynny oherwydd cysondeb yr ewyn - sydd o bosibl yn cael ei helpu gan y ffaith bod amrediad y llanw gydag un o’r uchaf yn y byd. Yn ogystal, mae brigdonwyr barcud yn hoff iawn o’r traethau hir ac agored hyn, a’r rheiny llai egnïol sy’n hedfan barcud, ac yn achos Bae’r Tri Chlogwyn, dringwyr creigiau – y cyfan yn chwaraeon diddorol i’w gwylio!

Yn ogystal, mae nifer o draethau llai eu maint, ond llawn mor hardd: dau o’r rhai mwyaf poblogaidd yw Caswell a Bae Langland. Mae’r olaf yn dal i ymffrostio yn eu cabanau traeth eiconig, ac mae ganddo ei gyrtiau tenis ei hun ac mae’n arbennig ar gyfer astudio pyllau llanw yn y creigiau – yn enwedig gyda’r trai! Yn y cyfamser, defnyddir Caswell yn aml fel traeth hyfforddi ar gyfer y rhai hynny sy’n dysgu syrffio ac mae’n ffefryn arall gan deuluoedd. Mae’r ddau yn hawdd i’w cyrraedd o ganol y dref. Neu ewch allan i un o’r cildraethau bach cartrefol fel Pwll Du, Mewslade neu Trebefered – efallai eu bod ychydig yn ddiarffordd, ond maent gwerth yr ymdrech mewn gwirionedd!

Er hyn, nid traethau yn unig yw apêl y Gŵyr, ac efallai bod y dirwedd amrywiol yn allwedd i apêl fyd-eang bro Gŵyr. Mae twyni tywod glaswelltog a llwybrau dramatig ar hyd pennau’r clogwyni yn ffinio llawer o’r arfordir, ynghyd â choetiroedd a llennyrch – llawn o glychau’r gog, cwningod, garlleg gwyllt, conau pinwydd neu gân adar, gan ddibynnu ar beth bynnag rydych wedi dewis ei archwilio!
Yn baradwys i gerddwyr, mae gan Gŵyr bron 400 milltir o ffyrdd hawliau tramwy, sy’n cynnig cyfle i fod yn un â natur. Mae yma warchodfeydd dynodedig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac ystod o gynefinoedd mor amrywiol ag sydd i’w cael yn unrhyw le yn y DU.

I mewn i’r tir, mae’r golygfeydd yn cynnwys ystodau eang o dir comin a rhostiroedd, yn eu plith Cefn Bryn dramatig; cartref i Garreg y Brenin Arthur, ynghyd ag amrywiaeth helaeth o anifeiliaid fferm ac anifeiliaid gwyllt! Yn ogystal, mae gogledd Gŵyr yn enwog am ei gorsydd halen a’i ddigonedd o gynnyrch coginio o lyrlys a chig oen Corsydd Hallt Gŵyr. Mae’r môr o amgylch Gŵyr yn cynnig gleisiad, ysbinbisg y môr a chocos, i gyd yn gydradd enwog am eu hansawdd a gwneir defnydd mawr ohonynt mewn bwytai lleol a choginio cartref.

Yn wir, mae bwyd yn rhywbeth nad yw byth ymhell o’r Gŵyr....mae yma lefydd te a chaffis ar lawer o’r traethau mwyaf poblogaidd, llond llaw o’r siopau pysgod a sglodion sydd i’w gweld ymhobman, tafarnau gwledig poblogaidd, (rhai ohonynt yn gwerthu cwrw go iawn), gwestai arddull bwtic a bwytai o’r safon orau, wedi eu nodi yn y good food guide...pob un yn rheswm da dros aros am rywbeth i’w yfed neu am damaid i’w fwyta!

I’r rhai hynny sy’n hoff o hanes, mae Gŵyr yn cynnig cefndir rhyfeddol, a chwedlonol yn aml, i archwilio cestyll, safleoedd hynafol, eglwysi, llongddrylliadau a meini hir. Ogofeydd Pen-y-fai yw’r ogofeydd cyntaf i’w cloddio’n wyddonol ym Mhrydain, ac roeddent yn gartref i sgerbwd ‘Dynes Goch Pen-y-fai’ – yr olion dynol cyfoes hynaf i gael eu dyddio yn y DU. Daeth tro ar bethau pan, er mawr syndod, datgelwyd mai dyn oedd ‘y ddynes goch’ a fu’n byw rhyw 26,000 mlynedd yn ôl! Ymhellach ymlaen ar hyd yr arfordir yn Rhosili, gellir gweld olion y llong drychinebus ‘The Helvetia’, â’r halen wedi dinoethi ei sgerbwd. Yn aml mae chwedlau a hanesion gwerin wedi eu plethu’n gyfoethog drwy orffennol Gŵyr – mae toreth o storïau am smyglwyr, brenhinoedd a phenaethiaid rhyfelgar sy’n ysu am waed i’w cael o amgylch Brandy Cove, Carreg Brenin Arthur a Chastell Pennard yn eu tro!

Mae cyfleoedd i fod yn fywiog i’w cael ymhob man – o daith cerdded hamddenol neu reid ar gefn beic ar hyd lonydd swynol cefn gwlad, i’r wefr llawn adrenalin wrth farcuta dros Rosili, hedfan awyren ysgafn yn Llwynteg, ychydig o saethyddiaeth, neu rownd o golff ar un o gyrsiau niferus sy’n ymelwa ar dopograffeg unigryw’r Gŵyr. Heb sôn wrth gwrs am y pleserau mwy cyffredin ar lan y môr, sef nofio, corff-fyrddio, syrffio, pysgota, hwylio, plymio, syrffio gwynt neu dim ond cerdded â’ch traed yn y dŵr!

Felly, os ydych am fod yn heini, dioglyd, hamddena, archwilio’r gorffennol, porthi ar y bwydydd gorau, neu os ydych ond am ddod o hyd i lecyn tawel er mwyn gloddesta ar y golygfeydd a’r amgylchedd bendigedig, Gŵyr yw’r lle y cewch y cyfan mewn gwirionedd.

Nodwch y dudalen gyda:

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet