Mae’r GIG yng Nghymru yn darparu gofal cychwynnol (meddygon teulu, optegwyr, deintyddion, fferyllwyr, a gweithwyr proffesiynol eraillym maes gofal iechyd). Darperir gofal eilaidd (ysbytai a gwasanaethau ambiwlans), gofal trydyddol trwy ysbytai arbenigol sy’n trin mathau arbennig o salwch fel canser, a gofal cymunedol, mewn partneriaeth â gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Darperir Gofal Iechyd ym Mae Abertawe gan ddwy Ymddiriedolaeth GIG: Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG ABM ac Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.
Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG ABM
Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG ABM yw’r ymddiriedolaeth ysbyty fwyaf yng Nghymru, ac yn un o’r mwyaf yn y DU. Lansiwyd yr Ymddiriedolaeth ar 1 Ebrill 2008, yn dilyn cyfuno Ymddiriedolaethau GIG Abertawe a Bro Morgannwg, y ddwy wedi ennill clod.
Fel yr Ymddiriedolaeth gyntaf yng Nghymru i ennill teitl Prifysgol, mae Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG ABM yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe a’i Hysgol Feddygol, ynghyd â phartneriaid prifysgol a choleg eraill yn Ne Cymru.
Mae dwy adran i’r Ymddiriedolaeth: y Gorllewin, sy’n ymdrin ag Abertawe; a’r Dwyrain, yn ymdrin â Chastell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Gorllewin Bro Morgannwg.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth bedair ysbyty fawr, ac mae tair ohonynt yn ardal Bae Abertawe: Treforys a Singleton yn Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot ym Maglan.
Mae gan Ysbyty Treforys 750 o welyau ar hyn o bryd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt mewn adeiladau modern a godwyd er 1981.
Ysbyty Treforys hefyd yw lleoliad prif Adran Damwain ac Argyfwng Abertawe, a chan ei fod yn hygyrch i boblogaeth De Orllewin Cymru, mae’n cael ei chydnabod yn Brif Ganolfan Trawma De Orllewin Cymru.
Mae Singleton yn Ysbyty Gyffredinol Dosbarth, a chanddi 550 o welyau, ym Mae Abertawe, wrth ochr campws Prifysgol Abertawe. Mae gan Singleton ei Hadran Damweiniau Leol 24 awr ei hun ac Uned Asesu Meddygol sydd newydd agor, ac sy’n helpu’r Ymddiriedolaeth ymdopi â’r nifer cynyddol o dderbyniadau brys. Mae’r Ysbyty hefyd yn gartref i’r Ganolfan Ganser isranbarthol ac felly’n darparu gwasanaethau Oncoleg arbenigol i Dde Orllewin Cymru.
Mae gan Ysbyty Castell-nedd Port Talbot 270 o welyau, ac mae’n darparu ystod o wasanaethau i gleifion preswyl, cleifion allanol ac achosion dydd, ar gyfer pobl Castell-nedd a Phort Talbot.
Mae ganddi hefyd wasanaeth damweiniau lleol 24 awr.
Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
Cyfunwyd Ymddiriedolaeth GIG flaenorol Sir Gâr ag Ymddiriedolaethau GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru, a Sir Benfro a Derwen, ar 1 Ebrill 2008, a thrwy hynny ffurfio Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda. Mae’n cyflwyno gofal iechyd i boblogaeth o 372,320 o bobl ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am bedair ysbyty, dwy ohonynt yn ardal Bae Abertawe: Ysbyty Gyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, yn ddwy yn darparu gwasanaethau llym a brys.
Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn darparu gwasanaethau llym, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar draws Cefnogaeth ardal canolbarth a de orllewin Cymru; yn ardal Bae Abertawe, darperir gofal parhaus ac adfer ar draws pedair ysbyty fach yn Ysbyty Dyffryn Aman (Glanaman), Ysbyty Llanymddyfri ac Ysbyty’r Mynydd Mawr (Tymbl Uchaf).
A oeddech chi’n gwybod?
- Mai uned damwain ac argyfwng Ysbyty Treforys oedd y cyntaf yn y DU i sefydlu labordy ceulad y gwaed.
- Yn 2008, y rhestrwyd Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, am y pumed flwyddyn yn olynol, ymhlith y gorau yn y DU. Enillodd yr ysbyty statws fel un o’r 40 Gorau yn y DU yn dilyn archwiliad annibynnol gan CHKS, cwmni meincnodi ysbytai mwyaf blaenllaw'r wlad.
- 2007 oedd y flwyddyn gyntaf i ffigurau Rhwydwaith Archwilio ac Ymchwil Trawma (TARN) gael eu gwneud yn gyhoeddus. Dangosasant fod Ysbyty Treforys, nid yn unig wedi derbyn y nifer uchaf o gleifion trawma yng Nghymru, ond bod ganddi yn ogystal gyfraddau goroesi a oedd 2.1% yn uwch na’r disgwyl.
- Yng ngwobrau Cylchgrawn Bydwreigiaeth Prydain ledled y DU yn 2007, bod Canolfan Geni Ysbyty Singleton wedi cyrraedd rownd derfynol categori Tîm y Flwyddyn.
- Bod ffigurau llawfeddygaeth gardiaidd y Comisiwn Gofal Iechyd yn dangos mai canolfan gardiaidd Ysbyty Treforys oedd yr unig un yn y DU i ennill sgôr "gwell na’r disgwyl" ar gyfer cyfraddau goroesi llawfeddygaeth ddargyfeiriol o’i beirniadu yn erbyn safonau caled newydd y DU a gyflwynwyd yn 2007.
- Bod Canolfan Cymru ar gyfer Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig wedi’i leoli yn Ysbyty Treforys.


