O fythynnod gwledig swynol, gwestai cadwyn cenedlaethol a gwestai unigryw, llety gwely a brecwast ardderchog, i wersylloedd sydd wedi ennill gwobrau, aros ar yr arfordir, yng nghanol cefn gwlad neu ym mwrlwm y ddinas, beth bynnag sydd orau gennych neu beth bynnag yw eich cyllideb, fe ddowch o hyd i rywbeth yma i fodloni eich anghenion.
Mae llawer o’r llety y tu allan i’r ddinas yn anelu at ddarparu ar gyfer anghenion ymwelwyr sydd yma i gymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored gwych sydd gan yr ardal i’w gynnig - felly, gofynnwch, os oes angen storfa dros nos arnoch ar gyfer byrddau syrffio neu feiciau mynydd!
Mae gan yr ardal un o eiddo mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y DU. Wedi’i leoli tua hanner ffordd ar hyd Bae Rhosili, gyda golygfeydd ardderchog o’r traeth a Phen Pyrod (a ddyfarnwyd y lle gorau i weld yr haul yn machlud yn y DU), mae’r lle’n llanw cyn gynted â bod lle’n dod ar gael, felly mae’n rhaid i chi fod yn gyflym i sicrhau eich lle.
Mae Gwesty Fairyhill, sydd wedi ennill gwobrau, ger Reynoldston, yng nghanol Penrhyn Gŵyr, wedi bod yn westy a ddewisir gan bobl enwog fel, Paul Newman a Joanna Woodward – a ymwelodd pan roedd eu mab yn priodi merch leol. Arhosodd Tony Blair yma hefyd pan oedd yn Brif Weinidog, sy’n rhoi peth syniad i chi o dras y gwesty hwn.
Cyn i Catherine Zeta Jones gael cartref mwy parhaol yma, roedd hi a Michael Douglas yn arfer aros yng Ngwesty Morgans yn yr Ardal Forwrol…... dewis poblogaidd ymhlith llawer o bobl enwog eraill sy’n ymweld â’r ardal. Mae Morgans, a’i chwaer westy, Y Cawdor yn Llandeilo, yn dystiolaeth o’r dulliau gorau o ailddatblygu ac ailwampio adeiladau hen a hardd, a bellach yn cynnig profiad o ansawdd, p’un a ydych chi’n aros, neu’n galw i mewn am ddiod neu rywbeth i’w fwyta.
Mae’r ardal yn eithaf cywasgedig, felly, ble bynnag rydych chi’n dewis aros, bydd y rhan fwyaf o’r atyniadau o fewn pellter gyrru hawdd.
Mae’r holl letyau ar y safle hwn a’r safleoedd canlynol wedi cael eu gwirio gan Groeso Cymru ac wedi derbyn marc safon o ansawdd – felly, byddwch yn gwybod ymlaen llaw yn union beth y dylech ei ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd yno.
Os ydych chi am aros yn benodol yn ardaloedd Abertawe, y Mwmbwls, Gŵyr a Chwm Afan, ewch i http://www.visitswanseabay.com/wheretostay.
Os mai Sir Gaerfyrddin yw eich dewis, ewch i http://www.tourlink.co.uk


