Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Byw yn > Nosweithiau Allan

Nosweithiau Allan

Mae Abertawe yn cynnig amgylchedd bwytai ger y lli, ardal gaffis fywiog yn y ddinas, a thafarndai tawel yng nghefn gwlad. O ddanteithion Cymreig traddodiadol i flasau mwy egsotig o wledydd pell.

Mae Abertawe'n cynnig ystod o fwytai sydd wedi hen ennill eu plwyf, gyda bywyd nos bywiog - barrau, bwyd da a bwytai cyfeillgar i blant ar draws ystod o arddulliau bwyd. Gall y rhai mwy bywiog yn eich plith fwynhau ystod o weithgareddau gyda'r nos, o Filltir y Mwmbwls, Stryd Wind, i fywyd nos mwy clasurol, gan gynnwys;

Neuadd Brangwyn (un o brif leoliadau diwylliannol Abertawe) a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau, seremonïau gwobrwyo a chyngherddau. Mae'n gartref i banelau Neuadd Brangwyn, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Panelau'r Ymerodraeth Brydeinig.

Canolfan Gelfyddydau Taliesin (lleoliad poblogaidd iawn sy'n cyflwyno ystod eang o berfformiadau ac arddangosfeydd) gan gynnwys dangosiadau sinema rheolaidd, a pherfformiadau byw o ddawns a drama i jas a cherddoriaeth fyd-eang.

Mae Theatr y Grand Abertawe (er 1897) wedi bod yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, artistig ac adloniannol cyffredinol i'r cyhoedd.

A oeddech chi'n gwybod?

  • Defnyddir Castell Ystumllwynarth i gynnal perfformiadau o waith Shakespeare ac operâu yn ystod yr haf.
    Mae Abertawe yn cynnal cyngherddau ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd. O Escape into the Park 2005 (20,000 o bobl sy'n frwdfrydig am gerddoriaeth ddawns) i Proms yn y Parc 2005 (9,000 o bobl sy'n hoff o gerddoriaeth glasurol!)
  • Ymddangosodd un o'r bwytai gorau ym Mhenrhyn Gŵyr, sef Fairyhill, sy'n enwog am ei fwyd o ansawdd uchel, yn y Good Food Guide (2006) am yr 11eg flwyddyn yn olynol
  • Daeth gwesty’r King’s Head yn Llangennith yn bedwerydd yn rhestr y ddeg dafarn haf orau a gyhoeddwyd gan y Times (Mai 2006)

 

 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet