Fel prif gyflogwr a phrif gorff penderfynu’r ddinas, mae Cyngor Abertawe yn rhan annatod ohoni. Mae’n gyfrifol am addysg yr ardal, y gwasanaethau cymdeithasol a thai, ac adfywio a’r amgylchedd, ac mae’r Cyngor yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau miloedd mewn amryw ffyrdd gwahanol.
Mae’r Cyngor yn cefnogi 225,500 o bobl ar hyd ardal sy’n 378 cilomedr sgwâr (146 milltir sgwâr), sy’n cyfrif am ryw 2% o arwynebedd Cymru. Mae’n ymestyn o Dwyn Rhosili ar ymyl orllewinol Penrhyn G�µyr i Fynydd Cilfái, Cors Crymlyn a llethrau Mynydd Drumau ar y ffin â Chastell-nedd Port Talbot yn y dwyrain; ac o Drwyn y Mwmbwls a bwa Bae Abertawe yn y de i grib 1200 troedfedd Mynydd y Gwair yn y gogledd, gyda’i olygfeydd o Ddyffryn Aman.
Mae gan y cyngor sawl amcan allweddol, gan gynnwys gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc, hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn Abertawe, gwella ‘golwg a naws’ canol ein dinas a’r ardaloedd siopa lleol, bod yn ystyriol o’r amgylchedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Ddinas ac arwain ar adfywio cymunedau lleol yn Abertawe.
Meddai Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Rwy’n falch iawn o gael croesawu’r fenter newydd, Swansea Futures. Mae Cyngor Abertawe’n llawn cyffro i gael bod yn un o brif gefnogwyr y fenter hon. Mae Swansea Bay Futures yn dangos bod pobl y ddinas yn unedig yn y nod o hyrwyddo’n dinas fendigedig ar lwyfan rhyngwladol.
“Wrth symud yn ein blaenau, mae angen i gefnogaeth y Cyngor i Swansea Bay Futures fod yn gwbl gydweithredol a chysylltiol, drwy ddefnyddio brand newydd Abertawe ble bynnag y bo hynny’n bosibl, rhannu gwybodaeth ac adnoddau a gwneud defnydd o’r holl gyfleoedd sydd ar gael i ni gyfleu’r neges. Rydym yn annog pob aelod o staff i feddwl o fewn eu hadrannau eu hunain am y cysylltiadau a’r cyfleoedd y gellir eu creu. Mae cymaint yn digwydd yn y Cyngor a bydd cyswllt rhwng ein gwaith ni a Swansea Bay Futures yn sicrhau hwb llawer mwy i farchnata.
“Mae cymaint i’w ddweud am ein dinas. Mae’r rheiny ohonom sy’n ddigon ffodus i gael byw yma eisoes yn gwybod lle mor hyfryd yw Abertawe i fyw a gweithio ynddo. Bydd Swansea Bay Futures yn sicrhau y caiff ein llais ei glywed y tu hwnt i’r ddinas, a bydd hynny’n helpu i greu diddordeb rhyngwladol yn y cyfleoedd unigryw sydd gan y ddinas hon i’w cynnig.”


