Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Partneriaid > Partners List > Maes Awyr Caerdydd

Maes Awyr Caerdydd

Cardiff Airport

Maes Awyr Caerdydd

Ystyrir bod Maes Awyr Caerdydd yn un o’r prif gyfranwyr i economi a bywyd Cymru, ac mae ei reolwyr yn cymryd hyn yn wirioneddol o ddifrif. Mae’r gefnogaeth i Swansea Bay Futures yn deillio o angen y maes awyr i gadw Cymru’n wlad gystadleuol a deniadol, ac mae’r ddinas yn ffactor sylweddol yn y teithwyr sy’n dod i mewn ac sy’n gadael y wlad.

Wedi’i leoli 10 milltir oddi wrth yr M4 a 40 milltir o Abertawe, mae Maes Awyr Caerdydd yn trin rhyw 1.9 miliwn o deithwyr y flwyddyn; dyma oedd y maes awyr â’r twf mwyaf ond un yn y DU yn 2003, ac fe’i dyfarnwyd yn un o’r 10 Maes Awyr Gorau yng Ngwobrau Teithio’r Telegraph ym mis Hydref 2004.

Ers ei breifateiddio yn 1995, mae Maes Awyr Caerdydd yn cael ei adnabod am ei niferoedd cynyddol o deithwyr, rhwydwaith estynedig o lwybrau hedfan, yn ogystal â rhaglen gwerth miliynau o bunnau i ehangu adeilad y teithwyr. Mae ei rwydwaith o lwybrau hedfan i leoliadau yn y DU, Ewrop a gweddill y byd yn cynnig dewis helaeth o wasanaethau i nifer cynyddol o deithwyr busnes a theithwyr hamdden o dde Cymru a gorllewin Lloegr.

Yn ogystal ag ystod estynedig o wasanaethau hamdden ledled Ewrop a gogledd America, mae gwasanaethau rhestredig yn hedfan bob dydd yn uniongyrchol o Gaerdydd i 17 o leoliadau, ac mae deg o’r rheiny’n rhai rhyngwladol.

Hefyd, mae gwasanaethau rhestredig uniongyrchol yn golygu y gellir dal cysylltiadau cyflym i sawl lleoliad ledled y byd, neu ohonynt, yn rhai o brif feysydd awyr canolfannau cysylltu Ewrop, sef Amsterdam, Brwsel, Paris a Dulyn. Drwy’r canolfannau cysylltu hyn, gall teithwyr drosglwyddo’n gyflym o Gaerdydd i rwydwaith o lwybrau hedfan rhyngwladol, ac ar sawl llwybr mae tocynnau uniongyrchol a threfniadau bagiau’n gwneud y teithio hyd yn oed yn fwy hwylus.

Buddsoddir mewn cyfleusterau i deithwyr drwy’r amser: ers 1995, cafodd, neu caiff, dros £37 miliwn ei fuddsoddi mewn rhaglenni datblygu a gynlluniwyd gan gadw cysur a diogelwch teithwyr mewn cof. Yn 2005, prynwyd y maes awyr gan ACDL, sef consortiwm yn cynnwys Abertis, sy’n gwmni isadeiledd o Sbaen, ac AENA, sy’n gwmni maes awyr o Sbaen.

 

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet