Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Partneriaid > Partners List > Morgan Cole (Solicitors)

Morgan Cole (Solicitors)

Ymrwymiad Morgan Cole i Abertawe

Mae Morgan Cole a’i ragflaenwyr wedi bod yn Abertawe ers dros 150 o flynyddoedd. Mae Abertawe yn sicr yn rhan o Morgan Cole, ac mae Morgan Cole yn rhan o Abertawe. Mae’r cwmni wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i’r Ddinas drwy agor ei swyddfeydd newydd yn SA1, a dyma’r cwmni cyntaf i symud i’r safle.

Mae Morgan Cole yn gwmni cyfreithwyr rhyngwladol, sydd â swyddfeydd yng Nghymru, Llundain a Dyffryn Tafwys. Mae ganddo 224 o gyfreithwyr ac mae’n cyflogi dros 400 o bobl i gyd, ac mae 80 o’r rheiny wedi'u lleoli yn ei swyddfeydd yn Abertawe.

Mae gan Morgan Cole amrywiaeth eang o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae profiad ac arbenigedd penodol y cwmni yng Nghymru’n cynnwys y meysydd canlynol yn y gyfraith:-

eiddo masnachol ac adeiladu

masnachol, gan gynnwys IP, TG a chaffael

rheoli anghydfod

corfforaethol, bancio a chyllid

addysg

iechyd a gofal cymdeithasol

cyflogaeth

yswiriant

cleientiaid preifat

Mae Peter Jones yn uwchbartner yn y cwmni sydd wedi bod yn Abertawe ar gyfer y rhan fwyaf o’i yrfa. Mae wedi ymrwymo i Swansea Bay Futures ers y cychwyn cyntaf. Mae Peter yn Is-ganghellor Cwmni Adeiladu Abertawe ac yn Gadeirydd Coleg Abertawe. Mae’n ymwneud llawer â chymuned fusnes y Ddinas, ag addysg ac â’r sector cyhoeddus. Oherwydd hynny, mae e’n credu’n gryf mewn hyrwyddo dinas a rhanbarth y mae ganddynt gymaint i’w gynnig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma ac i sefydliadau sy’n chwilio am amgylchedd y mae ganddo’r manteision y gallwn ni eu cynnig.

Mae Morgan Cole yn sicr yn rhan o adfywiad y Ddinas, ac mae am wneud popeth y gall i hyrwyddo’r Ddinas a’r rhanbarth drwy helpu i gefnogi a datblygu’r economi. 

 

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet