Neges gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol lwyddiannus ac uchelgeisiol sy’n ymffrostio yn ansawdd ei haddysgu a’i chysylltiadau diwydiannol llewyrchus. Roedd ennill gwobr y Times Higher Education Supplement yn 2005 ar gyfer y profiad myfyriwr gorau yn y DU yn anrhydedd enfawr hefyd, ac mae’n dangos yn glir y gwerth aruthrol y rhown ar sicrhau bod yr amser a dreulir yn Abertawe yn gwirioneddol wella bywydau’n myfyrwyr.
Mae ein hymchwil o safon ryngwladol ac yn ein galluogi i gefnogi adfywiad economaidd Cymru, gan gynnwys denu diwydiant uwch-dechnoleg i weithio ochr yn ochr â’r Brifysgol, sy’n dod â swyddi newydd i’r rhanbarth. Ymhlith y prif brosiectau mae’r Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaeth newydd ac Athrofa Gwyddorau Bywyd sydd, oherwydd ei gwerth o £50 miliwn, yn un o’r buddsoddiadau ymchwil mwyaf sylweddol yn unrhyw un o brifysgolion y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd wedi cyhoeddi y bydd Athrofa Telathrebu Uwch (IAT) newydd, gwerth £30 miliwn, sy’n falch o dderbyn cymorth cyllid ymchwil gan gwmnïau telathrebu mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Cisco Systems, Ericsson a Motorola.
Rydym yn parhau i fuddsoddi’n helaeth ym mhob agwedd ar ein datblygiad a bu ein cynllun strategol uchelgeisiol yn allweddol wrth ddenu academyddion llwyddiannus sydd ag enw da ar draws y byd, i Abertawe. Penodwyd dros 100 aelod o staff academaidd yn y 18 mis diwethaf yn unig. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at fwy o fuddsoddi ac ehangu, ac mae hefyd yn ychwanegu gwerth i brofiad y myfyriwr. Bydd ein hysgol feddygol newydd yn cael effaith gynyddol ar ansawdd gofal meddygol yn yr ardal.
Drwy lansio Swansea Bay Futures, mae prif sefydliadau’r ddinas yn arddangos eu hymroddiad i sicrhau lle Abertawe ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd creu delwedd broffesiynol a chydlynol yn meithrin hyder ar draws ein cymunedau academaidd, masnachol a chymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i’r economi leol dyfu mewn modd cynaliadwy.
Er bod y Brifysgol yn ceisio llwyddiant rhyngwladol, rydym yn dal i gofio’n gwreiddiau ac rydym yn haeddiannol falch o’n perthynas â’r gymuned leol a rhanbarthol. Mae Abertawe yn cyfrannu’n anhepgor at ein llwyddiant, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Swansea Bay Futures er lles uniongyrchol a hirdymor y rhanbarth.


