Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Astudio yn > Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Swansea Metropolitan University

Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Cafodd Athrofa'r ddinas yr hawl i alw ei hun yn brifysgol.
O hyn ymlaen fe fydd yr athrofa yn cael ei hadnabod fel Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae’r Brifysgol yn cyflogi rhyw 500 aelod o staff, ac mae ganddi dros 7,000 o fyfyrwyr, gydag ychydig dros hanner y rheiny’n hanu o ardal Bae Abertawe.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni HND, rhaglenni gradd a rhaglenni ôl-raddedig arloesol.

Mae pedwar prif safle i’r Prifysgol:

  • Mount Pleasant, ger canol y ddinas, yw’r safle mwyaf o ran niferoedd y myfyrwyr a dyma lle caiff y myfyrwyr ddysgu am Fusnes, Hamdden a Thwristiaeth, Cyfrifiaduraeth a TG, Cyfryngau Digidol, Dylunio Diwydiannol a Pheirianneg.
  • Mae Townhill, ymhell uwchlaw’r ddinas, yn brolio golygfeydd syfrdanol o Fae Abertawe a’r Mwmbwls gerllaw, a dyma lle caiff y myfyrwyr ddysgu am Addysg, Saesneg, y Celfyddydau Perfformio, Cwnsela, Seicoleg, Cymdeithaseg ac Iechyd.
  • Mae Dinefwr, yng nghanol y ddinas, yn gartref i Ysgol Celf a Dylunio Abertawe.
  • In Alexandra Road, sydd ond 100 metr oddi wrth Dinefwr, bydd y myfyrwyr yn astudio Gwydr Lliw, Celf a Dylunio Sylfaen a Thechnoleg Cerddoriaeth.
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet