Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Gweithio yn > Rhwydweithiau a Chyhoeddiadau Busnes

Rhwydweithiau A Chyhoeddiadau Busnes

Os ydych chi’n newydd i’r ardal, neu hyd yn oed yn cymryd mwy o gyfrifoldeb gyda’ch cyflogwr cyfredol, yna, mae’n aml yn syniad da i ymuno ag un o’r sefydliadau rhwydweithio busnes, a hefyd sicrhau eich bod chi’n derbyn copïau o gyhoeddiadau busnes lleol a’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd.
Mae’r canlynol yn rhai o’r sefydliadau a allai fod o ddiddordeb i chi.

Rhai Sefydliadau Busnes

  • Siambr Fusnes Gorllewin Cymru – aelodaeth ar gyfer cwmnïau. Mae’n cynnig digwyddiadau rhwydweithio a gwybodaeth reolaidd, a newyddlen fisol a’r wybodaeth ddiweddaraf dros e-bost yn rheolaidd.
  • Clwb Busnes Abertawe – aelodaeth ar gyfer unigolion. Mae’n cynnig digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd.
  • Clwb Busnes Castell-nedd Port Talbot – fforwm sy’n rhoi cyfle i bobl fusnes lleol gyfarfod yn rheolaidd i ddarganfod mwy am faterion mawr sy’n effeithio busnesau lleol.
  • Cymdeithas Allforwyr Gorllewin Cymru – fe’i ffurfiwyd ym 1994, ac mae Cymdeithas Allforwyr Gorllewin Cymru, yn bennaf, yn sefydliad rhwydweithio, sy’n cynnwys sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus, wedi’i leoli yn ardal De Orllewin Cymru. Mae ein haelodau yn ymdrin ag ystod o sectorau yn y maes allforio.
  • Twristiaeth Bae Abertawe – aelodaeth ar gyfer cwmnïau. Mae’n cynnig gwybodaeth, digwyddiadau hyfforddi a disgowntiau.
  • Partneriaeth Bae Abertawe – Y Bae mewn Busnes. Gwybodaeth ar-lein am ddigwyddiadau a hyfforddiant, yn ogystal â digwyddiadau Gwobrau blynyddol.
  • Ffederasiwn Busnesau Bach – aelodaeth ar gyfer cwmnïau. Mae’n cynnig gwasanaethau, gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau annibynnol bach.

Rhai Cyhoeddiadau Busnes

Mae hefyd yn ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion busnes. Gallai’r cyhoeddiadau canlynol fod o ddiddordeb...

  • South Wales Evening Post – adran fusnes reolaidd ar ddydd Iau, ac atodlen Busnes fisol
  • Western Mail – newyddion busnes dyddiol ar gyfer Cymru, gydag adran fwy ar ddydd Mercher. Mae’n cyhoeddi adroddiad blynyddol y 300 cwmni gorau yng Nghymru, ac mae ynddo gylchgrawn busnes rheolaidd.
  • Wales Business Insider – cyhoeddiad misol sy’n canolbwyntio ar Gymru gyfan. Mae’n anfon bwletinau wythnosol dros e-bost hefyd am y newyddion diweddaraf.
  • Cyfeirlyfr Busnes Abertawe – llyfryn gwybodaeth am fusnesau yn ardal Dinas a Sir Abertawe - fe’i cyhoeddir yn flynyddol.
  • Cyfeirlyfr Busnes Sir Gaerfyrddin – llyfryn gwybodaeth am fusnesau yn ardal Sir Gaerfyrddin - fe’i cyhoeddir yn flynyddol

Wrth gwrs, peidiwch ag anghofio eich bod yn cofrestru ar gyfer y cylchlythyr misol ‘Bay of Life Watch’ neu’r grynodeb busnes a datblygiadau chwarterol sy’n cynnwys yr holl newyddion cadarnhaol yn y rhanbarth.

 

 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet