Mae nifer o sefydliadau yn gweithredu yn y rhanbarth, sydd yno i helpu busnesau bach a chanolig newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Mae pob un yn cynnig gwasanaeth gwahanol, ac os nad ydych chi’n siŵr pa un allai fod orau i chi, yna, cysylltwch.
Dyfodol Bae Abertawe
Mae Dyfodol Bae Abertawe Cyf wedi cael ei sefydlu gyda’r bwriad o 'Hyrwyddo rhanbarth Abertawe fel lle i fyw, astudio, gweithio, buddsoddi, ac ymweld'. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig cymorth i gwmnïau o bob maint i’ch cysylltu chi â’r bobl a sefydliadau iawn, a chefnogi gweithgaredd recriwtio - sydd hefyd yn hyrwyddo’r ardal yn ei gyfanrwydd.
Partneriaeth Bae Abertawe
Mae Partneriaeth Bae Abertawe yn gweithredu i sicrhau bod busnes yn ffynnu yn y tymor hir yn Ne Orllewin Cymru. Mae’r bartneriaeth, sy’n cynnwys cyrff sector cyhoeddus a phartneriaid preifat, sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth dda o’r cyfleoedd posibl ar draws Bae Abertawe, yn gweithio ar ran busnesau sefydlog sy’n ehangu a rhai newydd, i’ch helpu chi i ffynnu, beth bynnag yw gofynion eich sector.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r materion dydd i ddydd sy’n pryderu pobl Cymru, gan gynnwys yr economi, iechyd, addysg, a llywodraeth leol. Gyda swyddfa ranbarthol ym Mhenllergaer, Abertawe, mae ganddyn nhw staff sy’n gallu cynghori ynglÅ·n â grantiau a chynllunio ar gyfer datblygu neu ehangu busnes newydd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau busnes un pwrpas, gan gynnwys Llygad Busnes (isod).
Llygad Busnes
Yn RHAD AC AM DDIM i fusnesau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, mae Llygad Busnes yn darparu gwasanaeth ‘porth sengl’ ar gyfer busnesau sy’n chwilio am help neu gefnogaeth. Mae’n darparu gwybodaeth fanwl, DDIDUEDD am y gefnogaeth sydd ar gael oddi wrth y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i fusnesau o bob math.
Siambr Fasnach Gorllewin Cymru
Mae Siambr Fasnach Gorllewin Cymru yn sefydliad busnes annibynnol, dielw, sy’n cael ei gyllido trwy danysgrifiadau aelodaeth. Mae’n gweithio er lles yr economi leol, trwy hyrwyddo a diogelu lles busnes a diwydiant ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gwasanaethau Meysydd Penodol…
Canolfan Fusnes Abertawe
Mae Canolfan Fusnes Abertawe yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Ddinas a Sir Abertawe, i gynnig gwasanaeth cefnogi busnes cynhwysfawr i fusnesau bach yn ardal Abertawe, rhai sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd.
Cyswllt Busnes Castell-nedd Port Talbot
Mae Cyswllt Busnes yn darparu cyngor a chefnogaeth ddiduedd gyfrinachol yn rhad ac am ddim i fusnesau bach lleol ac unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae gan bob awdurdod lleol yn rhanbarth Bae Abertawe wasanaethau gwybodaeth a chefnogaeth un pwrpas hefyd. Edrychwch ar bob ardal isod.
Swansea Council Business Pages



