Abertawe yw prif ddinas ranbarthol a chanolfan siopa de orllewin Cymru, gyda siopau’r stryd fawr yng nghanol y ddinas ac mewn canolfannau adwerthu y tu allan i’r dref.
Mae’r siopau mwyaf sydd yng Nghanolfan y Cwadrant ac ar Oxford Street yng nghanol y ddinas, yn cydweddu’n dda â siopau annibynnol llai a geir yn yr arcedau ac ar y Stryd Fawr.
Mae marchnadoedd ffermwyr yn cynyddu mewn poblogrwydd, ac mae Bae Abertawe yn cynnig llawer o leoedd sy’n rhoi’r cyfle i chi brofi cynnyrch ffres, lleol...... blas mawr, ôl troed carbon bach!
Ym Marchnad Abertawe, y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, gallwch brynu popeth o greiriau, llyfrau a llwyau caru, i bicau ar y maen yn syth o’r radell, pysgod sydd wedi cael eu dal yn lleol, cig sydd wedi cael ei gynhyrchu’n lleol, a danteithion lleol byd-enwog, cocos a bara lawr (gwymon bwytadwy).
Mae llawer o gynlluniau gwella mawr yn digwydd yng nghanol dinas Abertawe ar hyn o bryd, i greu cyfleoedd siopa newydd, cyffrous. Mae tua £3.2 miliwn wedi cael ei fuddsoddi i wella’r strydlun yn unig, a’r canlyniad yw mannau gwag o ansawdd i’r cyhoedd gyda dodrefn stryd a choed, sy’n ychwanegu at y profiad o siopa.
Mae tair canolfan adwerthu leol yn union y tu allan i ganol y ddinas, sef Parc Tawe, Fforestfach a Morfa, lle mae archfarchnadoedd ochr yn ochr â siopau’r Stryd Fawr.
I’r gorllewin o ganol y ddinas, mae pentref Oes Fictoria, y Mwmbwls, sydd â llawer o siopau unigryw, orielau a siopau crefft, cystal ag unrhyw dref, a’r siopau glan môr a dillad syrffio arferol.
Mae canolfannau siopa eraill ym Mae Abertawe yn y prif drefi, sef Llanelli, Caerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot, a’r pentrefi cyfagos.
Mae gan Gaerfyrddin, y dref hynaf yng Nghymru, lawer i’w gynnig i siopwyr, gyda nifer o siopau bach yn gwerthu nwyddau unigryw ac arbenigol, yn masnachu ochr yn ochr â llawer o siopau Stryd Fawr y DU.
Mae Llanelli, tref fwyaf Sir Gaerfyrddin, yn ganolbwynt datblygiadau adwerthu mawr ar hyn o bryd, gan gynnwys Parc Trostre a agorwyd yn ddiweddar, parc adwerthu y tu allan i’r dref sydd ar gyrion dwyreiniol canol tref Llanelli.
Mae llawer o waith adnewyddu wedi cael ei wneud yng nghanol tref Port Talbot yn ddiweddar i uwchraddio a thirweddu’r brif ardal siopa. Mae gan Port Talbot holl amwynderau tref fodern. Mae Canolfan Siopa Aberafan yn gartref i fwy na 60 siop o ansawdd, mewn marchnadfeydd golau a phleserus, ac mae llawer o siopau’r Stryd Fawr yno hefyd a siopau mwy arbenigol, sy’n darparu ar gyfer bron pob angen.
Mae canol tref Castell-nedd yn dref farchnad boblogaidd, hanesyddol, gyda phrosiect trawsffurfio gwerth £80 miliwn ar waith i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ganolfan siopa fywiog ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Mae gan farchnad Castell-nedd, sydd yng nghanol y dref, amrywiaeth mawr iawn o stondinau, ac mae’n rhoi’r cyfle gorau i brofi’r bwyd cartref lleol.
A oeddech chi'n gwybod?
- Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do draddodiadol fwyaf yng Nghymru.
- Abertawe yw'r unig dref/ddinas yng Nghymru â chanddi ddyfarniad Siopa'n fwy Diogel ac wyth gwobr Dylunio (mwy nag unrhyw le arall yng Nghymru)


