Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Buddsoddi yn > Sut i ddod yma

Sut I Ddod Yma

UK MapGyda’i gysylltiadau â’r rhwydwaith cludiant ehangach, mae Bae Abertawe mewn man strategol yn fynedfa i’r DU, Ewrop a thu hwnt.

Ffordd
Mae traffyrdd yn darparu cysylltiadau ardderchog i Fae Abertawe ac oddi yno: mae Llundain a De Ddwyrain Lloegr ar hyd yr M4, Canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr ar hyd yr M50, M5 a’r M6. Mae Abertawe hefyd yn rhan o’r rhwydwaith bysys cyfforddus cenedlaethol gyda gwasanaethau cyflym uniongyrchol i Ganol Llundain, meysydd awyr Gatwick a Heathrow a rhannau eraill o’r DU.

Rheilffordd
Mae gwasanaethau rhwydwaith reilffordd rhanbarthol a chenedlaethol ar gael trwy Abertawe i bob prif gyrchfan yn y DU. Mae dau wasanaeth i deithwyr yn rhedeg bob awr rhwng Abertawe a Paddington, Llundain, gyda gwasanaethau rheolaidd i Ganolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr a Gorllewin Cymru. Mae cysylltiadau awyr/rheilffordd cyflym hefyd i Abertawe o Lundain (Gatwick a Heathrow), a Meysydd Awyr Rhyngwladol Bryste a Chaerdydd.

Awyr
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn llai nag awr yn y car o Abertawe ar hyd yr M4, ac mae’n cynnig mynediad at ystod eang gynyddol o gyrchfannau mewnol, Ewropeaidd ac ar draws y byd. Mae cyfleusterau cyfyngedig ar gael hefyd o Feysydd Awyr Abertawe a Phenbre, sy’n cael eu defnyddio gan awyrennau bach ac awyrennau preifat ar hyn o bryd.

Môr
Mae llongau mawr yn hwylio rhwng Abertawe -Cork www.fastnetline.com am manylion ac rhwng Rosslare -Abergwaun neu Doc Penfro – y ddau 90 munud mewn car i’r gorllewin o ddinas Abertawe.

Er mwyn rhoi syniad i chi o ba mor agos y mae Bae Abertawe, mae’r canlynol yn dangos amserau teithio mewn car: Birmingham - 143 milltir, 2 ¾ awr, Llundain - 187 milltir, tua 3 ½ awr, Manceinion - 224 milltir, tua 4 awr. Gall Bae Abertawe fod yn nes nag ydych chi’n meddwl…. ond mae’n lle anodd i’w adael!

Swansea Bay Film

Darganfod mwy am Buddsoddi ym Mae Abertawe

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet