Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Buddsoddi yn > Ffeithiau a Ffigurau am Fae Abertawe > Y Gweithlu

Y Gweithlu

Mae nodweddion marchnad lafur yr ardal yn dangos rhyngweithiad cryf rhwng y tri awdurdod unigol ym Mae Abertawe. Mae’r patrymau teithio i’r gwaith yn dangos llif sylweddol ar draws y ffiniau, y mwyaf arwyddocaol yn digwydd i Abertawe o’r ardaloedd o gwmpas, gan atgyfnerthu ei statws fel y canolbwynt rhanbarthol.

Ar 1 Ionawr 2007, roedd gan Dde Orllewin Cymru 500 o fusnesau a gofrestrwyd am TAW ar gyfer 10,000 o’r boblogaeth oedran gweithio.

Mae 69.1% o’r boblogaeth oedran gweithio ar hyn o bryd yn gweithio yn Ne Orllewin Cymru.

 
Workforce

Mae’r data diweddaraf ar strwythur gweithlu Bae Abertawe, gan ddefnyddio gwybodaeth oddi wrth Arolwg Poblogaeth Blynyddol Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn awgrymu bod Gweithgaredd Economaidd a Chyfraddau Cyflogaeth ym Mae Abertawe yn agos at gyfartaledd Cymru.

Roedd 238,200 o bobl neu 73% o’r boblogaeth oedran gweithio mewn gwaith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2007.

Skills and qualifications

Qualifications within resident population skillsNotes:

 

 

Addysg Uwch

Mae hon yn ardal ag enw am ymchwil academaidd o’r radd flaenaf a chyflenwad digonol o raddedigion ac ôl-raddedigion sy’n fwy na hapus i aros a dechrau eu gyrfaoedd. Y ffaith syml yw; mae ansawdd bywyd uchel yn denu a chadw pobl o ansawdd uchel!

Mae gan yr ardal dri phrif sefydliad Addysg Uwch, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Athrofa Addysg Uwch Abertawe gynt) a Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
Gyda’i gilydd, maent yn derbyn dros 18,000 o geisiadau am astudiaethau gradd bob blwyddyn academaidd. Mae dwy brifysgol Abertawe wedi datblygu enw ardderchog am ansawdd yr ymchwil, yr astudio a’r ffordd o fyw.
Mae creu amryw o athrofeydd arbenigol sy’n gysylltiedig â’r prifysgolion yn allweddol i Strategaeth Adfywio Economaidd yr ardal ac wedi darparu rhwydwaith cefnogi lleol cryf ar gyfer busnesau a chwmnïau a rhai cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil a datblygu.

Mae Prifysgol Abertawe yn arbennig yn yrrwr economaidd cryf ar gyfer y rhanbarth, yn ei disgrifio ei hun yn ‘ymosodol uchelgeisiol’. Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn archwilio cynlluniau ar gyfer Campws Arloesi lle y gall busnes ac academia ddatblygu ochr yn ochr â’i gilydd. Mae cynlluniau yn canolbwyntio ar y porth i Abertawe o gyffordd 42 yr M4, gyferbyn â safle canolfan ddosbarthu newydd Amazon ac yn edrych dros y traeth a’r môr - mewn safle debyg i’r prif gampws presennol.

Swansea Bay Film

Darganfod mwy am Buddsoddi ym Mae Abertawe

 
 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet