Mae Abertawe yn cynnig arfordir a chefn gwlad ysbrydoledig, gyda chydbwysedd prin o fywyd dinesig a thirwedd wledig.
Mae cromlin Bae Abertawe yn mynd â chi i gyrchfan y Mwmbwls, sy'n cynnig amrywiaeth wych o atyniadau gan gynnwys pier, siopau traddodiadol, siopau crefft a pharlyrau hufen iâ. Caiff y Mwmbwls ei adnabod fel y 'Porth i Benrhyn Gŵyr', Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain - sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2006. Mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig cyfres o olygfeydd arfordirol a gwledig syfrdanol.
Ceir dewis o barciau prydferth hefyd ledled Abertawe, gan gynnwys Singleton, y Clun a Brynmill, (gyda llawer ohonynt wedi derbyn dyfarniadau Baner Werdd yn 2005). O fynd tua'r gorllewin gallwch ddod o hyd i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol ac Aberglasne, yn ogystal â hyfrydwch Parc Arfordirol y Mileniwm.
O fewn pellter gyrru byr i'r ddinas, tua'r dwyrain, gallwch eich cael eich hun yn 'Ardal y Rhaeadrau' yn Afan a Glyn Nedd, sy'n hafan i gerddwyr a beicwyr ill dau. Os ydych yn arbennig o hoff o wyliau gweithgar a heini ceir llawer iawn o ddewisiadau ar gyfer gweithgareddau awyr agored i chi eu mwynhau, naill ai yn y dŵr neu ar y tir.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld â'r ardal, neidiwch i www.visitswanseabay.com
A oeddech chi’n gwybod?
- Pleidleisiwyd Bae’r Tri Chlogwyn yn ‘Traeth Gorau Prydain’ gan Holiday Hit Squad y BBC.
- Enwyd Bae Rhosili yn ‘un o’r 25 traeth gorau yn y Byd’ gan y Sunday Times ac fel ‘Supermodel traethau Prydain’ gan yr Independent.
- Mae Traethau Abertawe wedi cael 7 Baner Las, sef Bae Langland, Bae Caswell, Porth Einon, Bae Breichled a Marina Abertawe – un o’r ychydig Farinas â Baner Las yng Nghymru!


