Swansea Bay
 
 
 
Cylchlythyr am ddim bob mis

Adnoddau yn rhad ac am ddim

 
 

Rydych chi yma: Hafan > Byw yn > Yr Amgylchedd naturiol

Yr Amgylchedd Naturiol

Mae Abertawe yn cynnig arfordir a chefn gwlad ysbrydoledig, gyda chydbwysedd prin o fywyd dinesig a thirwedd wledig.

Mae cromlin Bae Abertawe yn mynd â chi i gyrchfan y Mwmbwls, sy'n cynnig amrywiaeth wych o atyniadau gan gynnwys pier, siopau traddodiadol, siopau crefft a pharlyrau hufen iâ. Caiff y Mwmbwls ei adnabod fel y 'Porth i Benrhyn Gŵyr', Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain - sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2006. Mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig cyfres o olygfeydd arfordirol a gwledig syfrdanol.

Ceir dewis o barciau prydferth hefyd ledled Abertawe, gan gynnwys Singleton, y Clun a Brynmill, (gyda llawer ohonynt wedi derbyn dyfarniadau Baner Werdd yn 2010). Mae'r parciau'n cynnig amgylchedd iach â rhaglen o ddigwyddiadau i ddifyrru pawb.

Mae mwy na 30 milltir o arfordir ysbrydoledig gyda 50 + o draethau, llawer ohonynt wedi ennill gwobrau gyda help gan y ffaith bod gan Benrhyn Gŵyr rhai o'r dyfroedd glanaf yn y DU.

Mae'r ardal hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau allanol, gan gynnwys marchogaeth, cerdded, dringo creigiau, syrffio, hwylio, hwylfyrddio a llawer mwy.

Mae'r ardal gyfagos hefyd yn cynnig amrywiaeth o atyniadau, gan gynnwys 'Ardal y Rhaeadrau' yn Afan, tra bo Glyn Nedd yn hafan i gerddwyr a beicwyr. Lleolir Parc Gwledig Pen-bre yng nghefn gwlad ysblennydd Penrhyn Gŵyr sy'n edrych dros olygfeydd arfordirol Bae Caerfyrddin, trawsnewidiwyd y Parc yn un o atyniadau mwyaf Cymru i dwristiaid, gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir a chefn gwlad.

A oeddech chi'n gwybod?

Bod Pen Pyrod yn Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yn Benrhyn milltir o hyd yr honnir mai yno y ceir y machlud a ffotograffwyd 7fed amlaf yn y Byd

Mae Penrhyn Gŵyr yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed yn 2006 - fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) 1af Prydain

 

Dyluniwyd a datblygwyd gan imaginet