Prif Gyflogwyr

Enillion
O’r hanner miliwn o bobl sy’n byw o fewn 30 munud i Abertawe, mae 39% yn syrthio oddi mewn i’r grŵp oedran 16 – 44 sy’n gwario llawer.
Roedd enillion wythnosol gros ar gyfartaledd ar gyfer De Orllewin Cymru ar gyfer 2007 yn £459 yr wythnos. Roedd Incwm Gwario Gros Pennawd Teulu ar gyfer 2005 yn £11,548 y pen. Mae’r ddau hyn ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.

Datblygu ar gyfer y Dyfodol
Mae Abertawe wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol a thyfiant mewn cyflogaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn, mae Strategaeth Adfywio Economaidd wedi cael ei llunio a fydd yn arwain adfywiad economi Abertawe dros y deng i bymtheg mlynedd nesaf. Abertawe 2020 yw’r fframwaith strategol a fydd yn cefnogi adfywiad economaidd yn Ninas a Sir Abertawe gan anelu at wneud Abertawe yn ddinas falch, fywiog ac uchelgeisiol, gydag economi sy’n gystadleuol yn rhyngwladol a chanolfan arweiniol Cymru ar gyfer yr Economi Gwybodaeth.
Mae Abertawe eisoes ar ei ffordd i gyflawni’r nodau hyn gyda datblygiadau diweddar yn sectorau allweddol yr economi leol, a gweithgareddau gwybodaeth ddwys. Mae’r Clystyrau Ffocws hyn yn cael eu cefnogi gan amryw o athrofeydd a chanolfannau a grëwyd yn ddiweddar, gan gynnwys Technium Digidol, Athrofa Gwyddor Bywyd, Athrofa Telathrebu Uwch a Chanolfan Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol.
Technium
Mae Technium yn cynnwys rhwydwaith o’r cyfleusterau diweddaraf ledled Cymru, sy’n cael eu gwasanaethu gan y dechnoleg gwybodaeth a galluoedd diweddaraf, sy’n cynnig amgylchedd i alluogi cwmnïau sy’n dechrau a chwmnïau deillio sy’n seiliedig ar wybodaeth, i wireddi eu potensial. Mae partneriaethau cryf rhwng Technium a Chanolfannau Rhagoriaeth mewn Ymchwilio lleol yn darparu cefnogaeth academaidd arbenigol i brosiectau ymchwil a datblygu. Mae sawl Technium ym Mae Abertawe:
Mae Technium Abertawe wedi’i leoli ar 2 safle yn natblygiad SA1 Glannau Abertawe ac yn cefnogi busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth ar draws ystod o sectorau fel TGCh, meddalwedd, aml-gyfryngau, electroneg a pheirianneg.
Mae Technium Digidol wedi’i gysylltu â lloeren Technium Digidol@Sony, sydd yng nghanolfan technoleg Sony ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn cefnogi busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth sy’n arbenigo mewn technolegau digidol.
Mae Technolegau Cynaliadwy Technium ym Maglan, Port Talbot, yn cefnogi busnesau technoleg ifanc gan greu cynigiadau masnachol o amgylch y maes cynaliadwy.
Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn Llanelli yn canolbwyntio ar ddatblygu cwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn peirianneg perfformiad a fydd yn gwasanaethu’r sectorau cerbydau modur, chwaraeon moduro a/neu awyrofod. Mae’r adeilad yn ymgorffori Canolfan Rhagoriaeth IBM mewn Rheoli Cylchred Oes Cynnyrch (PLM) ac mae gan gwmnïau fynediad at y meddalwedd hwn a chefnogaeth i’w ddefnyddio.
www.technium.co.uk/
Athrofa Arloesi (IN2)
Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r Athrofa Arloesi yn anelu at ddod ag arbenigedd prifysgol i’r rhanbarth mewn system newydd o ‘Arloesi Agored’. Cydweithio er mwyn cystadlu yw ei athroniaeth.
www.in2.swansea.ac.uk
Athrofa Gwyddorau Bywyd (ILS)
Mae ILS wedi’i leoli mewn adeilad dynodedig ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n cyd-leoli ystod o weithgareddau ymchwil rhyngddisgyblaethol a gweithgareddau datblygu. Mae meysydd ymchwil yn cynnwys canser, diabetes, diffyg y galon ac asthma. Mae ILS yn gartref i’r uwch gyfrifiadur Blue C, un o gyfrifiaduron mwyaf a chyflymaf y byd, a’i bwrpas yw ymchwil meddygol ac mae’n sail i Ganolfan Arloesi Boots (BCI). Mae BCI yn bartneriaeth rhwng Alliance Boots plc, Longbow Capital LLP a Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n bwriadu gweithio’n agos gyda chwmnïau yn y camau cynnar a dyfeiswyr o unrhyw le yn y byd i ddatblygu cynnyrch arloesol ar gyfer silffoedd Boots.
www.ils.swan.ac.uk/
Athrofa Telathrebu Uwch (IAT)
Mae IAT wedi’i leoli yn adeilad Technium Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn integreiddio ymchwil academaidd arloesol gydag arbenigedd trosglwyddo gwybodaeth, ac yn darparu atebion wedi’u teilwra i gwmnïau amlwladol blaenllaw’r byd a busnesau bach entrepreneuraidd.
www.swan.ac.uk/iat/
Canolfan Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol (CIRIC)
Mae CIRIC wedi’i leoli ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn darparu pecyn cefnogi unigryw ac arloesol i ymarferwyr, ymchwilwyr, addysgwyr a mentrwyr i gydweithio ag eraill i ddatblygu sector diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r ganolfan yn gartref i’r technolegau diweddaraf ym meysydd Celfyddydau Cymhwysol, Tecstilau, y Cyfryngau Newydd a Chyfathrebu Gweledol.
www.sihe.ac.uk/ciric



