Sir Gaerfyrddin

Oherwydd ei gefn gwlad hardd a fflora a ffawna cysylltiedig, ‘Gardd Cymru’ y gelwir Sir Gaerfyrddin yn aml. O borfeydd gwyrddion Dyffryn Tywi i fynyddoedd ‘Cymru Wyllt’, mae Sir Gaerfyrddin yn wyrdd i’w gwreiddiau.

Mae hefyd yn gartref i erddi o’r radd flaenaf, fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Aberglasney, yn ogystal â threfi marchnad a phentrefi gwledig hyfryd, lle mae gwerthoedd traddodiadol a chroeso diffuant, yn aml yn cael eu cyfuno ag arddull gyfoes a byw’n drwsiadus. A gyda chefn gwlad gwyrdd sy’n ymddangos fel pe bai’n ymestyn am byth, gydag ambell i gastell cyfriniol, a thraethau sy’n cynnwys un o rhai hiraf Ewrop, mae’r cyfleoedd ar gyfer pob math o weithgareddau bron a bod yr un mor ddiddiwedd!

Afon Tywi a’i chwrs, o’r mynydd i’r môr, yw calon ac enaid Sir Gaerfyrddin. Yn ei tharddiad ym Mynyddoedd anghysbell Cambrian uwchben Llanymddyfri, gall cerddwyr gwydn fod yn ddigon ffodus i weld barcud coch prin, aderyn sydd yn aml yn cael ei gysylltu â’r ardal hon, ond os na wnânt, byddant yn bendant yn gweld golygfeydd dramatig o’r afon yn chwalu dros glogfeini enfawr a cheunentydd serth.

Gellir dod o hyd i lwybrau cerdded traws gwlad a llwybrau glan yr afon esmwyth ymhellach i lawr yr afon wrth i’r dirwedd wastadu ar draws y bröydd ac mae’r borfa wyrdd yn ymestyn allan am filltiroedd o gwmpas. Efallai mai yn yr ardal hon y cafodd yr enw Gardd Cymru ei fathu, oherwydd yn yr ardal hon y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasney a Dinefwr, yn denu ymwelwyr trwy’r tymhorau.

Nid campwaith o ddylanwadau hanesyddol ac i’r dyfodol yn unig yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ond mae hefyd yn helpu i warchod rhai o blanhigion prinnaf y byd. Mae gerddi muriog, gwelyau blodau a nodweddion addurnol o gwmpas darn canol syfrdanol – y ‘TÅ· Gwydr Mawr’ siâp deigryn, lle mae’r hinsawdd bob amser fel Môr y Canoldir. Y gromen ysblennydd hon yw’r tÅ· gwydr un rhychwant mwyaf yn y byd, ac fe’i cynlluniwyd gan Norman Foster a’i Bartneriaid. Nid yw’n syndod, felly, mai hon yw’r ardd yr ymwelir â hi fwyaf yng Nghymru!
Yn llai modern, ond nid yn llai swynol, mae Aberglasney, yr ‘ardd sydd ar goll mewn amser’, a neidiodd i amlygrwydd yng nghyfres deledu ar y BBC o’r un enw. Mae’r ardd gloestr hon sydd wedi cael ei hail-ddarganfod – un brin ym Mhrydain sydd wedi goroesi o’r 16eg a’r 17eg ganrif – yn parhau i ddatgelu ei chyfrinachau. Mae gan Sir Gaerfyrddin nifer o barciau natur a gwledig eraill, fel Llyn Llech Owain ac Ynys Dawela. Gem arall yw Parc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, un o barciau wedi’i dirweddu orau o’r 18fed ganrif ym Mhrydain, lle mae casgliad amhrisiadwy o goed hynafol.

Mae gan hyd yn oed forlin Sir Gaerfyrddin ei barc cenedlaethol ei hun – Pen-bre, sy’n 202 hectar o dir parc arbennig, sy’n cynnwys traeth baner las gwyllt a digyffwrdd Pen-bre. Mae digonedd o weithgareddau gwyliau teuluol ar gael yma, gyda thaith ar drên, cae chwarae antur i blant, golff byr, ardaloedd picnic, a dewis o lwybrau cerdded yn ogystal â marchogaeth ar hyd y traeth, a hyd yn oed lethr sgïo sych a thobogan!
Ewch i’r Amgueddfa Cyflymder gerllaw, sy’n edrych dros Bentywyn, y traeth hir iawn a ddefnyddiwyd ar gyfer y cynigion beiddgar i dorri record cyflymder ar dir. Annhebygol y gwnewch chi weld rhywbeth tebyg i hynny, ond gallwch roi cynnig ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, llwybr / ffordd feicio arfordirol syfrdanol heb draffig sy’n 22km ar Foryd y Byrri, sy’n edrych dros y Penrhyn Gŵyr ysblennydd. Wedi’u cysylltu gyda’i gilydd gan y nefoedd hon i feicwyr, mae Llwybr Arfordirol y Mileniwm yn cynnwys amrywiaeth unigryw o atyniadau fel Canolfan Gwlypdiroedd Cenedlaethol Cymru, Clwb Golff Penrhyn Machynys a Marina Porth Tywyn. Mae’r Ganolfan Ddarganfod sydd wedi ennill gwobrau, wedi’i lleoli yng nghanol y Parc, yn dirnod ac yn ganolbwynt i Barc Arfordirol y Mileniwm, yn ogystal â bod yn lle perffaith am baned o de neu hufen ia oer – ar y traeth! Yn y canoldir, darperir yn dda ar gyfer beicwyr mynydd hefyd yng Nghoedwig Brechfa, un o gyfrinachau gorau Sir Gaerfyrddin. Mae golygfeydd dramatig a chymoedd dwfn yn cynnig profiad ardderchog (weithiau, mwdlyd!) i bobl frwdfrydig.
Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig llawer o weithgareddau eraill i godi curiad eich calon – o bledu paent yng Nghenarth, safle blaenllaw Cymru ar gyfer pledu paent, i golff yng nghlwb golff a gwledig penrhyn Machynys, yr unig gwrs wedi’i gynllunio gan Jack Nicklaus yng Nghymru. Ac wrth gwrs, gyda chymaint o dirweddau a morluniau ysblennydd, bydd unrhyw un sydd â brwdfrydedd am gerdded, beicio, marchogaeth neu chwaraeon dŵr, yn ei chael hi’n anodd peidio â threulio eu holl amser hamdden yn yr awyr agored. Wrth gwrs, nid llosgi egni corfforol yw popeth; mae croeso i chi fynd â’ch gwialen a mynd i un o’r afonydd i bysgota am eog a brithyll môr (a elwir yn sewin yn lleol).
Neu, am rywbeth cyfan gwbl llai egnïol, ewch ar y trên stêm sy’n teithio i fyny Rheilffordd Gwili trwy ddyffryn coediog, swynol o’r Bronwydd ger Caerfyrddin. Ble bynnag rydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud, peidiwch ag anghofio cymryd saib bob hyn a hyn i edrych ar y wlad werdd, ryfeddol sy’n ymddangos fel pe bai’n mynd ymlaen ac ymlaen.

Gyda’i gefndir naturiol gwyrdd ac ambell waith, gyfriniol, mae chwedlau’r Brenin Arthur a’r Dewin Myrddin yn deillio o Sir Gaerfyrddin. Ymwelwch ag un o’r cestyll chwedlonol niferus, fel cestyll canoloesol Cydweli a Dinefwr neu Garreg Cennen, ‘nyth eryr’ na ellir ei anghofio wedi’i glwydo ar glogwyn yn edrych dros y Mynydd Du, a byddwch yn teimlo hanes a dewiniaeth y llefydd sy’n eich amgylchynu. Ffaith neu ffuglen chwedlonol? Penderfynwch chi!
Os mai dewiniaeth adwerthu rydych chi eisiau, mae trefi Sir Gaerfyrddin yn gyfeillgar ac yn llawn atyniadau gyda siopau arbenigol mewn trefi a phentrefi swynol. Gyda llwybrau hen ffasiwn a lleoliad glan yr afon, mae tref wledig lewyrchus, llawn bywyd Caerfyrddin, yn cynnig y gymysgedd fwyaf a mwyaf amrywiol o siopau’r stryd fawr a siopau annibynnol, ac mae’n werth ymweld â hi, yn enwedig ar ddiwrnodau’r farchnad (dydd Mercher a dydd Sadwrn). Am wir bleser, ewch i Landeilo – tref wledig brydferth o dai lliw pastel uwch ben yr Afon Tywi. Nid yw ei harddwch yn dod i ben fan hynny fodd bynnag, oherwydd o edrych yn fanylach gwelir delicatessen a siopau bwyd organig, orielau ffasiynol, gemyddion cyfoes a thai crefftau, arlwywyr ffasiwn menywod unigryw, a hyd yn oed siop ecolegol.

Mae trefi hanesyddol eraill sy’n denu siopwyr a’r rheiny sydd â diddordeb mewn pethau eraill yn cynnwys; Talacharn, tref forol wahanol, gysglyd Dylan Thomas ar foryd y Taf, lle gallwch ymweld â chartref Dylan a’i sied ysgrifennu, a gweld y “traeth sy’n llawn crychyddion”; Llanymddyfri gyda’i marchnad hen a deniadol, tafarndai traddodiadol, adfeilion castell a chanolfan grefftau; Llandysul, yng nghanol y sir gyda’r Afon Teifi a’i gwrs canŵ slalom safon pencampwriaeth a physgota ardderchog; Castell Newydd Emlyn, sy’n cynnig siopa deniadol, pensaernïaeth hanesyddol ac adfeilion castell; a San Clêr, sydd mewn gwlad ffermio ffrwythlon, ac yn gartref i Ganolfan Crefftau Gorllewin Cymru a Chanolfan Crefftau Glyn-Coch.
Yn ymestyn o ffin Cymru/Lloegr i Sir Gaerfyrddin, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd o gyferbyniadau, gyda gweundir gwyllt ac agored, rhaeadrau, mynyddoedd gwyntog a dyffrynnoedd cysgodol, gyda bywyd gwyllt amrywiol a gorffennol chwilfrydig. Mae’r Parc Cenedlaethol hardd a dramatig hwn yn gefndir i drefi bach eraill, gan gynnwys Abercraf – cartref ogofeydd Dan yr Ogof a Chastell Craig y Nos Madam Adeleina Patti – Rhydaman, Glyn-nedd ac Aberhonddu.

Yn gweddu i ranbarth sy’n cael ei galw’n Ardd, mae Sir Gaerfyrddin hefyd yn enwog am ysbeiliau ei thir a môr: Cig Eidion y Gwartheg Duon Cymreig, cocos a bwyd môr Bae Caerfyrddin, eog a brithyll môr y Tywi, ham melys Caerfyrddin, llysiau sy’n cael eu tyfu gartref, a rhai o’r cawsiau ffermdy mwyaf blasus ar y blaned, sydd wedi ennill gwobrau. Mae hyd yn oed fferm siocled yn yr ardal! Ewch i un o’r bwytai da lleol, a byddwch yn gweld amrywiaeth eang o gynnyrch lleol ar y bwydlenni. Blaswch y rhain, a byddwch yn deall pam.
Peidiwch â chael eich camarwain gan y term ‘Gardd’, gan fod traethau ysblennydd hefyd yn Sir Gaerfyrddin, ac maen nhw’n draethau mawr – mae Cefn Sidan, y traeth mwyaf yng Nghymru, (mewn gwirionedd, un o’r mwyaf yn Ewrop!) yn un o’r traethau hiraf, mwyaf tywodlyd rydych chi byth yn debygol o’i droedio. Ac i ychwanegu at ei apêl, mae’n rhan o Fae Caerfyrddin, y morlun chwilfrydig a swynodd Dylan Thomas gymaint pan roedd yn byw ac yn gweithio yno, ac sy’n parhau i ddenu pobl leol a thwristiaid, fel ei gilydd.
Prin bod llysenw wedi ymddangos mor briodol â phan rydych chi allan yn mwynhau’r awyr iach a’r bywyd iach a geir yn y rhanbarth hwn.

Sir Gaerfyrddin, Gardd Cymru…… efallai na fyddwch chi byth eisiau dod dan do.